Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Hydref 2022
Ymgynghoriad gwreiddiol
Cefndir
Yn ddiweddar, mae Gwasanaethau Tai Môn wedi profi pa mor fforddiadwy yw’r rhenti a’r taliadau gwasanaeth rydym yn godi ac rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod pob un wedi pasio'r meini prawf fforddiadwy.
Rydym wedi defnyddio dull a ddatblygwyd gan y Joseph Rowntree Foundation i wneud y Gwaith hwn - dull hynod o boblogaidd sy’n dweud bod rhent yn fforddiadwy os nad yw yn fwy na 28% o incwm y tenant neu 33% o’r incwm os yw’r tenant hefyd yn talu am dal gwasanaeth (service charge).
Yn naturiol, nid oes ganddom wybodaeth am incwm pob un o’n tenantiaid, felly rydym wedi defnyddio'r ‘real living wage’ i gyfrifo hyn gan ein bod yn credu bydd y mwyafrif o’n tenantiaid sy’n gweithio yn ennill hyn o ganlyniad i Lywodraeth Cymru geisio hybu cyflogwyr i dalu’r lefel hwn.
Rydym yn falch o gael rhannu’r newyddion yma gyda chi, a gan fod yr asesiad yma yn bositif, rydym angen eich adborth ar y mater. Ydi hyn yn beth fyddech chi yn ei feddwl? Ydych chi yn cytuno efo hyn?
Rydym yn awyddus iawn i gael eich barn ar hyn ac ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn gan Wasanaethau Tai Môn trwy gwblhau'r arolwg isod. Ar ddiwedd yr holiadur, byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich manylion cyswllt os hoffwch gymryd rhan yn ein gwobr raffl.
Dweud eich dweud
Y dyddiad cau yw dydd Llun 31 Hydref.
Arolwg ar-lein: Gosod Rhenti Cyngor Sir Ynys Môn 2023 i 2024
Sut fyddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth
Mae gennych chi nifer o hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth yn cynnwys eich hawl i weld yr wybodaeth yr ydym ni’n ei gadw amdanoch chi a’r hawl i gwyno os nad ydych chi’n hapus gyda’r modd yr ydym yn prosesu’ch gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth am y modd yr ydym ni’n prosesu’ch gwybodaeth a’ch hawliau gweler:
- Hysbysiad preifatrwydd tai
- Polisi Diogelu Data
Mae’r incwm gan eich rhent yn cael ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd er mwyn ariannu gwaith Gwasanaethau Tai – Tai Môn.
Yr enw ar hwn yw’r Cyfrif Refeniw Tai.
Nid ydym yn derbyn unrhyw arian gan y Dreth Gyngor ac nid yw’r arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am unrhyw wasanaethau eraill yn y cyngor.
Mae’r Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei reoli’n ofalus er mwyn sicrhau bod yr incwm gan eich rhent yn cael ei ddefnyddio i reoli, cynnal a chynyddu ein stoc dai a’n tir yn unol â’r Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai.
Byddwn hefyd yn derbyn ychydig o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynnal a chadw a gwella stoc.
Rydym eisiau sicrhau ein bod yn rheoli ein cyllid yn dda ac yn darparu gwerth da am arian.
Mae dyfodol tymor hir ein cartrefi a’n cymunedau yn bwysig iawn i ni wrth i ni benderfynu lle a phryd i fuddsoddi.
Yng nghanlyniadau’r arolwg STAR diweddar, dywedodd 83% o’n tenantiaid wrthym eu bod yn meddwl bod ein rhent yn darparu gwerth am arian. Mae hyn yn ychydig o welliant o’r 81% a nododd hynny yn 2019.
Yn fwy na hynny, dim ond 9% o’r sampl a gasglwyd oedd yn anfodlon.
Os ydych chi ar unrhyw adeg angen cyngor a chefnogaeth gydag unrhyw elfen o gyllid eich cartref, yn cynnwys eich biliau tanwydd, cysylltwch â ni.
Mae gennym ein Tîm Cynhwysiant Ariannol ein hunain sy’n gallu darparu cyngor chymorth i chi a’ch teuluoedd.
Ffôn: 01248 752 200
E-bost: financialinclusion@ynysmon.llyw.cymru
Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein cartrefi a’n cymunedau. Dyma ychydig o enghreifftiau sut yr ydym wedi buddsoddi yn ein heiddo dros y 5 mlynedd ddiwethaf.
Stoc bresennol
|
Cyfanswm
|
Gosod boeleri newydd
|
1090
|
Toeau newydd
|
502
|
Ffenestri newydd
|
474
|
Gosod pympiau gwres ffynhonnell aer
|
25
|
Ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd
|
759
|
Rendro eiddo a gosod deunyddiau inswleiddio ar du mewn a thu allan eiddo
|
461
|
Solar PV
|
308
|
Storio batris
|
50
|
Datblygiadau tai newydd a phrynu tai yn ôl
|
Totals
|
Adeiladu catrefi newydd ers 2019
|
79
|
Prynu eiddo yn ôl (cyn eiddo’r Cyngor wedi eu prynu yn ôl) ers 2017
|
60
|
Gosod pympiau gwres ffynhonnell aer
|
26
|
Solar PV
|
80
|
Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn gwelliannau amgylcheddol a chymunedol - £338,820.75