Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Strategol ar gyfer Gwella Canol Trefi Ynys Môn : Ymgynghoriad rhanddeiliaid


Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Gorffennaf 2023

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Cyngor Sir Ynys Môn eisiau clywed gan sefydliadau a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb yn nyfodol canol trefi Ynys Môn.

Cynllun strategol

Mae hwn yn gynllun strategol sirol ar gyfer cyflawni'r nod a nodir yn ein Cynllun Cyngor newydd (2023 i 2028) o 'wella bywiogrwydd a hyfywedd canol ein trefi'.

Mae canol trefi ledled Cymru a'r DU wedi gweld newidiadau sylweddol iawn, gan gynnwys y twf mewn manwerthu ar gyrion neu y tu allan i'r dref, colli llawer o ddefnyddiau traddodiadol fel banciau, a thwf mawr mewn siopa ar-lein yn ystod y pandemig diweddar. Mae rhai canol trefi wedi gallu addasu ac aros yn fywiog, ond mae eraill yn amlwg yn ei chael hi'n anodd, ac mae angen iddynt ddatblygu rolau gwahanol os ydynt am ffynnu, ac mae angen syniadau a dulliau gweithredu newydd.

Mae trefi a chanol trefi Ynys Môn yn ganolbwynt i lawer o weithgareddau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr Ynys. Yn ogystal â darparu ar gyfer cannoedd o fusnesau a miloedd o swyddi, maent hefyd yn ganolfannau pwysig ar gyfer llawer o wasanaethau a chyfleusterau, fel lleoedd i ymweld â nhw ar gyfer lletygarwch neu ddigwyddiadau, fel canolbwyntiau ar gyfer diwylliant a threftadaeth, ac fel lleoedd i fyw.

Mae'r cynllun strategol  hwn yn cynnig mecanweithiau ac egwyddorion ar gyfer sut y dylai'r cyngor sir a'i bartneriaid fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu canol trefi'r ynys, a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i'w gwella. Hoffem weld yr holl bartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol yn dweud eu dweud ac yn ein helpu i lunio dull ymarferol y gellir ei gyflawni. Bydd y sylwadau yn derbyn ystyriaeth fel rhan o broses cytuno cynllun strategol terfynol cyn diwedd 2023.

Er bod llawer o faterion cyffredin, mae pob un o drefi a chanol trefi Ynys Môn yn unigryw gyda'i chymeriad, ei anghenion a'i gyfleoedd penodol ei hun. Dilynir y broses cynllun strategol cychwynnol ledled y sir yn ystod misoedd y dyfodol drwy baratoi cynlluniau creu lleoedd pwrpasol ar gyfer trefi/trefi penodol yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir yn y cynllun strategol, gydag ymgynghori/ymgysylltu manwl a lleol.

Trwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn rydych yn rhoi caniatâd i Gyngor Sir Ynys Môn i'ch atebion gael eu casglu a'u prosesu yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd

Dweud eich dweud

Darllenwch y cynllun strategol

Darllenwch y cynllun strategol drafft.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.

Arolwg ar-lein

Ar ôl darllen drwy'r cynllun strategol, cwblhewch ein harolwg ar-lein.

Dyddiad cau: 28 Gorffennaf 2023

Ewch i'r arolwg ar-lein ar gyfer Cynllun Strategol ar gyfer Gwella Canol Trefi - bydd y ddolen yn agor tab newydd