Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gronfa Ffyniant Gyffredin: ymgynghoriad


Daeth yr ymgynghoriad i ben 10 Mehefin 2022

Ymgynghoriad gwreiddiol

Cefndir

Dyrannwyd £13.3 miliwn o gyllid Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU i Gyngor Sir Ynys Môn dros y 3 blynedd ariannol nesaf i fuddsoddi mewn:

  • cymuned a lle
  • cefnogi busnesau lleol
  • pobl a sgiliau

Cyn i Lywodraeth y DU ryddhau’r arian i’w wario’n lleol, mae’n rhaid i Cyngor Sir Ynys Môn a’r pum awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru gydweithio i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar y cyd a rhaid i Lywodraeth y DU ei gymeradwyo er mwyn datgloi’r cyllid.

Bydd y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol yn cynnig rhaglenni a chynlluniau a allai wedyn gyllido prosiectau lleol a rhanbarthol yn y 3 chategori uchod.

Rydym yn ceisio cymorth a mewnbwn i lunio’r cynllun hwn drwy nodi anghenion lleol yr ardal a syniadau am y math o brosiectau a allai ddylanwadu ar natur y  rhaglenni a’r cynlluniau ariannu a fydd yn cael eu cynnwys yn y cynllun yn y pen draw.

Mae angen cyflwyno’r Cynllun Rhanbarthol i Lywodraeth y DU ei gymeradwyo ym mis Awst 2022.
Yn ddibynnol ar faint o amser a gymer Llywodraeth y DU i ystyried y Cynllun, gobeithir y bydd modd gwahodd ceisiadau am grantiau, yn erbyn y rraglenni a’r cynlluniau a gymeradwyir, ddiwedd 2022 neu ddechrau 2023.

Eich barn

Os oes gennych syniadau am brosiectau lleol neu ranbarthol a allai elwa o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ystod y 3 blynedd nesaf, helpwch ni i lunio’r Rhaglenni a’r Cynlluniau a allai gael eu cynnwys yn y Cynllun Rhanbarthol drwy gwblhau a chyflwyno’r holiadur ar-lein canlynol.

Hysbysiad preifatrwydd: Arolwg blaenoriaethau lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) wedi ei gofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae manylion llawn y cofrestriad ar gael ar gofrestr reolyddion data yr ICO. Mae’r Cyngor, fel rheolydd data, yn gyfrifol am ddata personol unigolion.

Yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data, mae’r hysbysiad hwn yn rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r data yr ydym yn ei gadw amdanoch, sut yr ydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’ch data a’r mesurau diogelu sydd ar waith i’w amddiffyn.

Mae’r hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn ymddiried ynom i ymddwyn yn gyfrifol pan fyddwch yn rhannu gwybodaeth bersonol gyda ni. Mae data personol neu wybodaeth bersonol yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir ei defnyddio i adnabod yr unigolyn hwnnw.

Y categorïau gwybodaeth yr ydym yn eu prosesu

  • dynodwyr personol a manylion cyswllt (megis enw, cyfeiriad e-bost)

Pam yr ydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth unigolion

Mae CSYM yn casglu’ch data personol er mwyn cadarnhau’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer ymyraethau yn ymwneud â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Er mwyn cael mynediad at yr arian a ddyrannwyd i Ynys Môn, rhaid i’r Awdurdod Lleol Arweiniol yn y rhanbarth gynhyrchu a chyflwyno, ar y cyd ag Awdurdodau Lleol Eraill, Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol sengl am y cyfnod hyd at fis Mawrth 2025, yn seiliedig ar y blaenoriaethau a amlinellwyd ym mhrosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Defnyddir yr wybodaeth a gesglir gan CSYM fel rhan o’r ymgynghoriad hwn i gadarnhau’r blaenoriaethau i bobl ifanc, grwpiau a busnesau ar yr Ynys.

Does dim rhaid i chi gwblhau’r adran “amdanaf i” yn yr holiadur na rhoi’ch cyfeiriad e-bost, fodd bynnag, os byddwch yn dewis peidio darparu’r wybodaeth hon ni fydd modd i ni gysylltu â chi i drafod yr ymyrraeth yr ydych chi’n ei chynnig. Trwy ddweud wrthym ni ar ran pwy yr ydych chi’n ymateb i’r ymgynghoriad, rydym yn gobeithio gallu deall anghenion grŵp targed y gronfa hon yn well. Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion nad ydynt yn gydnaws â pham y cafodd ei chasglu yn y lle cyntaf, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol ein bod angen ei defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw yn gydnaws â’r pwrpas gwreiddiol. Dalier sylw, efallai y byddwn yn prosesu’ch data personol heb yn wybod i chi neu heb eich caniatâd chi, lle bo angen neu os caniateir i ni wneud hynny o dan y gyfraith.

Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol oherwydd bod gennym sail gyfreithiol ar gyfer prosesu:

  • i gyflawni gorchwyl cyhoeddus o dan Erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data'r DU

Sut yr ydym yn storio data unigolion

Caiff data personol ei storio yn unol â Pholisi Diogelu Data y Cyngor.

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cadw’ch data at ddibenion ystadegol am gyfnod o 6 blynedd o ddyddiad cwblhau’r arolwg, ac wedi hynny bydd yn adolygu’r data a gedwir ganddo. Os nad yw’n parhau i ddefnyddio’r data ar yr adeg honno, bydd y data’n cael ei ddileu; os ydi’r data’n dal i gael ei ddefnyddio, bydd yn cael ei gadw, ond wedi hyn bydd y sail dros gadw’r data’n cael ei adolygu’n flynyddol.

Mae’n bosib y caiff eich data ei gadw wedi hynny at ddibenion archifo er budd y cyhoedd a monitro a gwerthuso.

Rhannu

Rhennir eich gwybodaeth drwy’r platfform Smart Survey ac yn unol â’u polisi preifatrwydd hwy. Bydd yr wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu’n cael ei rhannu gydag Awdurdodau Lleol eraill o fewn y Rhanbarth (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), a hefyd gyda phartneriaid perthnasol ar lefel ranbarthol a lleol yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i Uchelgais Gogledd Cymru, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, Grŵp Llandrillo Menai, Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru a rhanddeiliaid dilys eraill. Bydd y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU.

Efallai y byddwn yn datgelu’ch data yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu ar gais gorchymyn llys neu rwymedigaeth gyfreithiol arall na fydd yn mynd yn groes i’ch hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data.

Mae’r gyfraith hefyd yn mynnu ein bod ni’n amddiffyn y cronfeydd cyhoeddus a weinyddir gennym ni ac efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cronfeydd cyhoeddus er mwyn atal neu ganfod twyll neu anghysondebau.

Sut yr ydym yn edrych ar ôl eich gwybodaeth

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae’n rhaid i ni ddiogelu unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei chasglu gennych. Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith ac wedi gweithredu safonau a rheolyddion diogelwch i atal data personol rhag cael ei golli, cael ei ddefnyddio neu ei gyrchu’n ddamweiniol mewn ffordd anawdurdodedig, ei altro neu ei ddatgelu.

Bydd yr wybodaeth yr ydych wedi ei darparu yn cael ei storio’n ddiogel. Yn ogystal â hyn, dim ond y gweithwyr, contractwyr a thrydydd bartïon eraill sydd angen gweld y data personol fydd yn cael mynediad ato. Byddant yn prosesu’r data personol yn unol â’n cyfarwyddyd ni a bydd ganddynt ddyletswydd i gadw cyfrinachedd.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw achos o dorri’r rheolau diogelu data a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol ynglŷn ag unrhyw achos o’r fath os oes gennym ddyletswydd gyfreithiol i wneud hynny.

Eich hawliau diogelu data

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawliau fel testun y data. Nid yw’r hawliau hyn yn absoliwt ac efallai y byddant yn berthnasol dim ond o dan rhai amgylchiadau:

Yr hawl i gael gwybod bod gwybodaeth amdanoch chi’n cael ei defnyddio

Yr hawl i gael mynediad– mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’ch gwybodaeth bersonol (gweler ‘gwneud cais am fynediad at eich data personol’ isod am fwy o fanylion).

Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth y credwch ei bod yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth y credwch ei bod yn anghyflawn.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu’r wybodaeth bersonol sy’n cael ei phrosesu gennym ni o dan amgylchiadau penodol.

Yr hawl i wrthod prosesu – mae gennych yr hawl i wrthod gadael i’ch data personol gael ei brosesu dan amgylchiadau penodol. Mae gennych yr hawl i wrthod caniatáu i’ch data personol gael ei brosesu os yw hynny’n debygol o achosi, neu wedi achosi, difrod neu drallod.

Dan rai amgylchiadau, mae gennych yr hawliau canlynol hefyd:

  • yr hawl i atal prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol
  • yr hawl i wrthwynebu penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn awtomatig
  • yr hawl geisio iawndal, un ai drwy’r ICO neu drwy’r llysoedd

Gwneud cais am fynediad at eich data personol

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan unigolion yr hawl i wneud cais am fynediad at wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Yn gyffredinol cyfeirir at gais o’r fath fel “cais gan wrthrych y data”. Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o’r data personol yr ydym ni’n ei gadw amdanoch ac i wirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon.

I wneud cais am wybodaeth bersonol, cysylltwch â swyddfeydd y Cyngor.

Cysylltu

Dyma fanylion cyswllt y rheolydd data:

Swyddog Diogelu Data’r Cyngor

E-bost: dpo@ynysmon.llyw.cymru

Cyfeiriad: Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y rheoleiddiwr annibynnol dros ddiogelu data, ar unrhyw adeg. Os oes gennych bryder neu gŵyn ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn casglu neu’n defnyddio’ch data personol, dylech rannu’ch pryder gyda ni yn y lle cyntaf fel y gallwn geisio datrys unrhyw broblemau.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

E-bost: https://ico.org.uk/concerns/

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Mae cyngor ac arweiniad ar gael ar eu gwefan www.ico.org.uk

Newidiadau i’n hysbysiad preifatrwydd

Rydym yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn barhaus a byddwn yn cyhoeddi unrhyw fersiynau diwygiedig.

Holiadur ar-lein

Dyddiad cau: 10 Mehefin am 4pm

Rydym yn awgrymu eich bod yn agor copi o’r ddogfen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Ymyriadau, Amcanion, Canlyniadau ac Allbynnau – Cymru er mwyn cyfeirio ati wrth lenwi’r holiadur, gan ei bod yn nodi’r math o ymyraethau a ddeisyfir gan Lywodraeth y DU.

Wrth wneud hynny, byddwch hefyd yn gweld mwy o fanylion am y mathau o gamau, gweithgareddau ac ymyraethau y mae Llywodraeth y DU yn gobeithio eu gweld yn cael eu gwireddu gan ddefnyddio arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin.