Cyngor Sir Ynys Môn

Cynigion cyllidol 2022 i 2023: ymgynghoriad


Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Chwefror 2022

Ymgynghoriad gwreiddiol

Ymgynghoriad ar gynigion cyllidol y Pwyllgor Gwaith 2022 i 2023 

Bydd y Cyngor Sir yn derbyn setliad ariannol gwell gan Lywodraeth Cymru yn 2022/2023 wedi blynyddoedd o doriadau.

Bydd hyn yn creu cyfle i ail-fuddsoddi mewn rhai meysydd i ymateb i gynnydd mewn pwysau, gyda rhai ohonynt yn gysylltiedig â’r pandemig Covid ag eraill o ganlyniad i flynyddoedd o lymder. Felly, mae’n rhaid i’r Cyngor Sir wneud penderfyniadau ynghylch ei gyllid, yn arbennig y swm a godir drwy’r Dreth Gyngor.

Er mwyn ariannu chwyddiant sydd yn 4.8% yn gyfredol , adnoddau ychwanegol i gynnal systemau a chynnal cynnydd mewn costau blynyddol disgwyliedig, ynghyd ag ail-fuddsoddi i fynd i’r afael a heriau a risgiau yn y gwasanaethau, bydd angen cynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor.

Mae pob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor yn cynhyrchu oddeutu £400,000 o incwm ychwanegol i'r Cyngor ac yn golygu cynnydd o £13.05 y flwyddyn yn y Dreth Gyngor i eiddo Band D neu 26c yr wythnos.

Byddai cynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor yn golygu cynnydd o 52 ceiniog yr wythnos yng nghost y Dreth Gyngor i eiddo Band D, ond byddai’n galluogi’r Cyngor i ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau sydd wedi cael ergyd caled  gan bron i 10 mlynedd o doriadau di-baid, sydd o ganlyniad wedi effeithio ar bwysau’r ddarpariaeth gyfredol fydd angen ei werthuso o’r newydd wrth inni symud ymlaen o effeithiau’r pandemig.

Dweud eich dweud

Hoffai’r Pwyllgor Gwaith ennyn eich barn ar y cynigion cyllidol arfaethedig ar gyfer 2022 i 2023.

Darllenwch y ddogfen Pwysau Cyllidol 2022 i 2023 (yn agor mewn tab newydd) sy’n rhoi’r cyd-destun i chi cyn ymateb i’r cwestiynau.

Dyddiad cau: 9 Chwefror 2022.

Ymgynghoriad ar-lein