Mae’r cyngor yn annog ceisiadau am leoliadau profiad gwaith gan ysgolion lleol, colegau ac yn wir, unrhyw geisiadau eraill a dderbynnir.
Er mwyn cychwyn y broses o ymgeisio am leoliad profiad gwaith, anfonwch ffurflen gais profiad gwaith (gweler y linc ar y dudalen hon) i profiadgwaith@ynysmon.llyw.cymru neu i’r cyfeiriad isod. Bydd y ffurflen gais wedyn yn cael ei hanfon ymlaen i’r gwasanaeth perthnasol i’w hystyried.
Os yw’r ffurflen gais yn ymwneud ag unigolyn dan 16 oed, bydd angen i’r swyddog perthnasol yn yr adran gwblhau ffurflen asesu risg. Bydd y ffurflen hon wedyn yn cael ei hanfon at riant neu warcheidwad yr ymgeisydd i’w llofnodi cyn i’r lleoliad gychwyn.
Proses ymgeisio
Cwblhewch y ffurflen gais isod os gwelwch yn dda, gan sicrhau eich bod wedi cwblhau pob rhan ohoni yn llawn cyn ei chyflwyno.
Mewn rhai achosion, mae’n bosib na fydd gwasanaethau’n medru derbyn y cais; felly sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn nodi tri dewis o leoliad er mwyn osgoi siomedigaeth.
Anfonwch y ffurflen gais wedi ei chwblhau ynghyd ag unrhyw ddogfennau cefnogol eraill at profiadgwaith@ynysmon.llyw.cymru.
Yn achos yr unigolion hynny sydd dan 16 oed, bydd ffurflen asesiad risg yn cael ei chwblhau gan yr adran a bydd angen i rieni neu warcheidwaid y myfyrwyr ei llofnodi. Mae copi o’r ffurflen asesu risg ar gael isod.
Gall ymgeiswyr ddisgwyl neges e-bost unwaith y bydd y ffurflen gais profiad gwaith wedi cael ei derbyn gan y Swyddog AD Profiad Gwaith. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod trwy lythyr a ydyw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.
Byddwn yn anelu at roi gwybod i’r ymgeiswyr o fewn 8 wythnos a ydyw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Gan fod y cynllun lleoliadau profiad gwaith yn boblogaidd iawn ar adegau, arhoswch am 8 wythnos os gwelwch yn dda cyn ffonio am ddiweddariad ar y broses.
- Ffurflen gais profiad gwaith
- Rhybudd preifatrwydd profiad gwaith
- Y broses o ymgeisio am brofiad gwaith
Cyfeiriad:
Uned Adnoddau Dynol
Swyddfeydd y Cyngor
Cyngor Sir Ynys Môn
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffurflen gais
Ewch i ffurflen gais profiad gwaith