Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Buddion i weithwyr


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ymfalchïo mewn cynnig diwylliant sefydliadol cefnogol, mewn amgylchedd gwaith cadarnhaol a chyfeillgar, lle cynigir telerau ac amodau cyflogaeth ardderchog ar gyflogau cystadleuol.

  • Mynediad i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
  • Cerdyn disgownt Manteision Môn.
  • Cynllun Benthyciad Car. Mae'r cynllun ardderchog hwn ar gael i'r holl weithwyr sy'n defnyddio eu cerbyd i gyflawni eu dyletswyddau yn unol â thelerau'r cytundeb a nodwyd gan yr awdurdod. Sylwer os gwelwch yn dda fod yn rhaid i'r cerbyd a brynir gael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan y gweithiwr/weithwraig ar gyfer dyletswyddau gwaith a dylai unrhyw hawliadau am gostau teithio adlewyrchu hynny
  • Disgownt ar aelodaeth o ganolfannau hamdden yr awdurdod.
  • Rhaglen hyfforddi a datblygu i gefnogi cyrsiau byr mewnol a chymwysterau proffesiynol allanol.
  • Parcio am ddim.
  • Cyfleusterau. Mae cyfleusterau cegin sylfaenol ar gael i staff yn y mwyafrif o swyddfeydd y cyngor. Hefyd, mae llecyn i chi fwyta cinio neu ar gyfer cynnal cyfarfodydd anffurfiol  yn ‘Encil Môn’ ar ail lawr Prif Adeilad y Cyngor.
  • Disgowntiau ar gynhyrchion EE Mobile.
  • Gwasanaeth cymorth iechyd galwedigaethol.
  • Flex-physiotherapy
  • Medra - gwasanaethau cwnsela hunangyfeirio 24/7 i weithwyr - hyd at 4 sesiwn y flwyddyn. Mynediad at wasanaeth ar-lein.
  • Profion llygaid am ddim i’r rheini sy’n defnyddio unedau arddangos gweledol yn rheolaidd.
  • Mentrau llesiant.
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith - mae'r Cyngor, trwy ei bartneriaeth â Halfords, yn cynnig cynllun Beicio i’r Gwaith i weithwyr.
  • Gwyliau blynyddol

           Hyd at 5 mlynedd o wasanaeth              26 diwrnod y flwyddyn
           Rhwng 5 a 10 mlynedd o wasanaeth     29 diwrnod y flwyddyn
           Dros 10 mlynedd o wasanaeth               32 diwrnod y flwyddyn
           Gwyliau Banc                                          8 diwrnod y flwyddyn

Bydd union nifer y dyddiau o wyliau ar sail pro rata i staff rhan amser.

Mae gan Ynys Môn bolisïau ardderchog i sicrhau bod gweithwyr yn cydbwyso gofynion gwaith a chartref.

Mae Polisi Gweithio Hyblyg y Cyngor yn darparu ar gyfer addasu patrymau gwaith i helpu gweithwyr i gyfuno gwaith â chyfrifoldebau eraill, gan roi hyblygrwydd i'r Cyngor ddarparu gwasanaeth sydd wedi ei integreiddio’n well ac sy’n fwy ymatebol.

  • Polisïau teulu-gyfeillgar gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb rhiant, absenoldeb mabwysiadu a seibiant gyrfa.
  • Cynllun i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.
Chwiliwch am swydd

Bwletin swyddi

Cofrestrwch ar gyfer ein bwletin i dderbyn ein cyfleoedd gwaith diweddaraf.

Cofrestrwch