Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych chi’n:
- yn 14 oed neu hŷn (ond ni allwch bleidleisio tan eich bod yn 16 yn etholiadau’r Senedd ac yn 18 mewn etholiadau eraill) AC
- yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad. Dinesydd yr Undeb Ewropeaidd neu ddinesydd tramor sydd â chaniatâd i ddod mewn neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd arnoch.
Gwybodaeth am ddinasyddion cymwys i bleidleisio yn etholiadau’r DU.
Dan y ddeddfwriaeth bresennol, nid yw bod yn briod â dinesydd Prydeinig na bod â cherdyn preswyl parhaol i fyw yn y DU yn eich gwneud yn ddinesydd Prydeinig ac felly ni chewch bleidleisio yn etholiadau’r DU.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Dinasyddiaeth ewch i wefan yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo.