Mae amrywiaeth o gyfleoedd am swyddi eisoes yn bodoli ar gyfer pobl leol, gyda thua 200 o bobl eisoes yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan ddatblygiadau sy’n gysylltiedig ag Ynys Ynni.
Disgwylir cyfleoedd gwaith sylweddol yn y man wrth i rai o’r datblygiadau sylweddol symud tuag at eu camau gweithgynhyrchu a gweithredu. Bydd amrywiaeth eang o swyddi ar gael yn ystod y camau hyn. Bydd angen amrywiaeth eang o sgiliau a gweithwyr o sawl gwahanol broffesiwn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar unrhyw rai o brosiectau’r datblygwyr, dilynwch y tudalennau ‘swyddi’ a thudalennau cyfryngau cymdeithasol y datblygwyr drwy glicio ar y map isod: