Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn derbyn nifer o geisiadau o’r un math am wybodaeth sydd yn berthnasol ar gyfer trethi annomestig (eiddo busnes).
Gwybodaeth cyfrifon
Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth yma yn chwarterol ac ni fyddwn yn darparu ymateb unigol i geisiadau cyffelyb yn ystod y flwyddyn dim ond cyfeirio’r ymholiad tuag at yr adroddiad berthnasol ar y wefan.
Cyfyngiadau ar y wybodaeth
- Darperir yr enwau a chyfeiriadau ar gyfer gohebiaethu ar gyfer cwmniau cyfyngedig a chyrff cyhoeddus yn unig ac nid ar gyfer unigolion (unig fasnachwyr, partneriaethau ayyb); mae Deddf Diogelu Data yn atal cyhoeddi’r wybodaeth yma.
- Y trethdalwr yw’r person sydd yn atebol i dalu’r dreth fusnes. Mewn sawl achos gall hwn fod y deilydd lês ac nid y perchennog. Ni ellir adnabod y perchennog o’r wybodaeth yma.
- Ni ddarperir rhifau cyfrif oherwydd fod rhain yn unigryw i’r cyfrif ac fe’i ddefnyddir i sicrhau mai’r person a enwir ar y bil yw deilydd y cyfrif pan mae’n cysylltu a Chyngor Sir Ynys Môn.
- Fe gyhoeddir y rhestrau nesaf ar ddechrau mis Ionawr 2026.
- Noder mai’r cyfeiriad gohebiaeth yw’r cyfeiriad olaf sydd gan y cyngor.
- Bydd unrhyw newidiadau i’r rhestrau isod yn cael eu hadlewyrchu mewn adroddiadau a gyhoeddir ar y rhestrau nesaf.
Gwybodaeth cyfrifon
- Cyhoeddir y wybodaeth gyfrifon ddiweddaraf fel ag y mae ar 1 Hydref 2025.
- Mae credyd sydd ar gyfrif ar 31ain o Fawrth yn cael ei wrthbwyso yn awtomatig ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.
- Mae cyfrifon yn cael eu diweddaru yn ddyddiol a gall rhai fod gyda debyd ar gyfrif cyfatebol.
Defnydd o enwau dwyieithog
Ymarferiad y cyngor yw defnyddio enwau Cymraeg diofyn ar gyfer enwau trefi mewn cyfeiriadau. Dyma restr o enwau cyfatebol yn y Gymraeg a’r Saesneg ble ceir enwau Cymraeg a Saesneg ar y trefi
- Ynys Môn - Isle of Anglesey
- Biwmares - Beaumaris
- Caergybi - Holyhead
- Porthaethwy - Menai Bridge
- Y Fali – Valley
Nid oes enwau saesneg ar bentrefi eraill.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.