Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Uned 23a, Stad Diwydiannol Penrhos Caergybi LL65 2FD


unit 23 penrhos

Gwahoddir cynigion rhent oddeutu £11,400 + TAW y flwyddyn

Dyddiad cau

Dydd Gwener 15 Mawrth 2024

Nodweddion

  • Uned busnes – ar gael Ionawr 2024
  • Wedi'i lleoli yng nghanol stad ddiwydiannol sefydledig
  • Oddeutu 204 m2 (2,200 troedfedd sgwâr)
  • Yn agos at ganol y dref a gwibffordd yr A55
  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar y safle

Disgrifiad

Uned diwydiannol, modern wedi'u lleoli ym Mharc Diwydiannol Penrhos yng Nghaergybi. Mae Parc Diwydiannol Penrhos yn un o Ardaloedd Menter Llywodraeth Cymru ac mae'r ardal yn gartref i nifer o gwmnïau fel Morrisons, Aldi, Argos, Summit to Sea, Môn Fire Management, a Home Bargains ymhlith eraill.

Mae’r uned yn darparu arwynebedd llawr mewnol gros (GIA) o oddeutu 204 m2 (2,200 troedfedd sgwâr) sy'n cynnwys; swyddfa, toiled, storfa a gweithdy. Mae defnydd B1, B2 a B8 wedi eu cymeradwyo ar gael i busnesau o heddiw ymlaen

Lleoliad

Mae Stad Ddiwydiannol Penrhos oddeutu milltir i'r de o ganol tref Caergybi, y porthladd a'r orsaf reilffordd ac mae'n hwylus o Gyffordd 2 o wibffordd yr A55 trwy'r A5153.

Gwasanaethau

Deellir bod yr uned wedi ei chysylltu i’r prif gyflenwad dŵr, trydan tair gwedd a’r brif system ddraenio. Awgrymir bod partïon sydd â diddordeb yn sicrhau bod y darpariaethau yn  addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.

Telerau’r Brydles

Cytundeb prydles 3 blynedd gyda rhent yn daladwy bob mis ymlaen llaw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am baratoi’r brydles, a fydd yn costio oddeutu £699.37. Mae’r Cyngor gyda pholisi o sicrhau blaendaliadau ar gyfer rhent masnachol sy’n cyfateb i 6 mis o rent. Bydd hwn yn daliad hollol ar wahân i’r rhandaliad rhent cyntaf.

Gwneud Cais

Mae'r uned ar gael i'w osod, yn amodol ar gais llwyddiannus, a bydd angen darparu geirdaon a chynllun busnes.

Datganiadau o Ddiddordeb a Gweld yr Unedau

I fynegi diddordeb, cysylltwch ag Adain Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752245 / 755241 neu YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru

Tystysgrif Perfformiad Ynni EPC – Gradd A

 Nodyn Pwysig

  1. Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  2. Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y Cyngor.
  3.  Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  4. Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  5.  Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.