Cyngor Sir Ynys Môn

Uned 6 Canolfan Fusnes Môn, Bryn Cefni, Llangefni, LL77 7XA


Uned-Unit-6

Dyddiad cau: 17 Gorffennaf 2024

Rhent (y flwyddyn): £7,200 + TAW

Nodweddion

  • Oddeutu 61.68 m2 (663.92 troedfedd sgwâr)
  • Dau ofod swyddfa
  • Defnydd o ardaloedd cymunedol
  • Wedi'i leoli ym Mharc Busnes sefydledig Bryn Cefni
  • Agos i gyffordd 6 yr A55
  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar y safle

Disgrifiad

Uned swyddfa wedi'i lleoli ym mharc Busnes Bryn Cefni, Llangefni, yn agos at Gyffordd 6 yr A55. Mae'r uned yn darparu gofod swyddfa wedi ei garpedu gyda nenfwd crog sy'n cynnig arwynebedd llawr mewnol net o tua 61.68m2 (663.92 troedfedd sgwâr), wedi'i rannu'n ddwy swyddfa gyda digon o le ar gyfer o leiaf 10 desg. Opsiwn i ddefnyddio'r desgiau a ddarperir. Ceir mynediad i'r uned drwy dderbynfa Canolfan Fusnes Môn. Mae cyfleusterau parcio a pwyntiau gwefru cerbydau trydan a rennir hefyd ar gael. Mae ein Hadran Gynllunio yn ein cynghori bod y defnydd cynllunio sefydledig yn dod o fewn dosbarth B1. Rydym yn cynnig prydles atgyweirio ac yswirio fewnol. Telir TAW ar yr eiddo.
Mae Parc Busnes Bryn Cefni yn gartref i Peugeot, Jewsons, Lidl, Howdens, Screwfix a Llechwedd Meats ymhlith llawer o fusnesai eraill.

Lleoliad

Wrth deithio ar hyd yr A55 cymerwch yr allanfa ar gyffordd 6 a theithio i gyfeiriad Llangefni ar hyd ffordd yr A5114. Ar y gylchfan, cymerwch yr ail allanfa, arwydd Parc Bryn Cefni. Ar y gylchfan nesaf cymerwch yr allanfa gyntaf i Ffordd Ystad Ddiwydiannol, cymerwch y trydydd troad oddi ar y gylchfan nesaf. Canolfan Busnes Môn fydd y fynedfa gyntaf ar y dde i chi.

Gwasanaethau

Defnydd o gegin gymunedol a thoiledau. Darperir prif gyflenwad trydan, prif gyflenwad dŵr, gwres ac aerdymheru, bydd disgwyl i'r tenant dalu cyfran deg am wasanaethau. Awgrymir bod partïon sydd â diddordeb yn sicrhau bod y darpariaethau yn addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.

EPC

Mae sgôr gweithredol yr adeilad wedi’i gofrestru fel E.

Telerau'r brydles

Cytundeb prydles 3 blynedd gyda rhent yn daladwy bob mis ymlaen llaw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y cystau sy’n ymwneud a paratoi’r brydles, a fydd yn costio oddeutu £734.50 + TAW. Mae’r Cyngor gyda pholisi o sicrhau blaendaliadau ar gyfer rhent masnachol sy’n cyfateb i 6 mis o rent. Bydd hwn yn daliad hollol ar wahân i’r rhandaliad rhent cyntaf.

Gwneud cais

Mae'r uned ar gael i'w osod, yn amodol ar gais llwyddiannus, a bydd angen darparu geirdaon a chynllun busnes.

Datganiadau o ddidordebau a gweld yr unedau

Gweld trwy apwyntiad yn unig. Dylai partïon sy’n dymuno mynegi diddordeb wneud hynny drwy gysylltu ag Adain Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752245 / 755241 neu YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru.

Nodyn pwysig

  1. Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  2. Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y Cyngor.
  3. Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  4. Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  5. Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.