Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Uned 5: Parc Diwydiannol Mona, Mona, LL65 4RJ


Unit-5-Mona

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 8 Mai, 2024

I'w osod:

Unedau diwydiannol: Uned 5, Parc Diwydiannol Mona, Mona, LL65 4RJ

Rhent (fesul uned):

Cynigion o oddeutu: £5,300 gan gynnwys TAW y flwyddyn

Nodweddion:

  • Wedi'i leoli mewn ystâd ddiwydiannol sefydledig
  • Arwynebedd llawr o 94.8 m² (1,020 troedfedd sgwâr) neu oddeutu hynny
  • Defnydd cynllunio sefydledig o fewn dosbarthiadau B1, B2 a B8
  • Ystyrir yn gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes o 100%   

Disgrifiad

Uned ddiwydiannol fodern wedi'i leoli ar y Parc Diwydiannol Mona, sy'n darparu mynediad da at y wibffordd yr A55. Mae'r uned yn darparu arwynebedd llawr mewnol gros o 94.80 m² (1020 troedfedd sgwâr) neu oddeutu hynny. Mae'r mynediad i’r uned trwy ddrws ffrynt rhan wydrog neu drwy ddrws rholer 4.25 m o uchder a weithredir yn fewnol. Mae ein Adran Cynllunio yn ein cynghori fod y defnydd cynllunio sefydledig yn syrthio o fewn dosbarthiadau B1, B2 a B8. Bydd prydles drwsio ac yswirio mewnol ar gael. Mae'r Gwerth Ardrethol o Restr Trethi 2010 yw £4,150.

Gwasanaethau

Dellir bod yr unedau wedi eu cysylltu i’r prif gyflenwad dŵr, trydan tair gwedd a’r brif system ddraenio. Awgrymir bod partïon sydd â diddordeb yn sicrhau bod y darpariaethau yn  addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.

Telerau'r Brydles

Cytundeb prydles warchodedig 3 blynedd gyda’r tenant yn gyfrifol am cynnal a chadw mewnol. Bydd rhent yn daladwy bob mis ymlaen llaw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am baratoi’r les, bydd y gost am hyn oddeutu £699.37 gan gynnwys TAW. Mae’r Cyngor gyda pholisi o sicrhau blaendaliadau ar gyfer rhent masnachol sy’n cyfateb i chwe mis o rent.

Gwneud cais

Mae'r uned ar gael i'w gosod, yn amodol ar gais llwyddiannus, a fydd yn cynnwys darparu geirda banc, dau eirda masnach a chynllun busnes.

Datganiadau o Ddiddordeb a gweld yr unedau

I fynegi diddordeb, cysylltwch ag Adain Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752245 / 752250 neu YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru

Nodyn pwysig

  1. Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.

  2. Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y Cyngor.

  3. Nid yw CYSM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.

  4. Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.

  5. Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.