Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Uned 27a Stad Ddiwydiannol Penrhos Caergybi LL65 2FD


27a-Penrhos-image

Rhent (y Flwyddyn): £12,900 + TAW Gwahoddir cynigion rhent.

Nodweddion

  • Uned busnes newydd sbon – I’w osod Chwefror 2024
  • Wedi'i lleoli yng nghanol stad ddiwydiannol sefydledig
  • Oddeutu 230 m2 (2,475 troedfedd sgwâr)
  • Yn agos at ganol y dref a gwibffordd yr A55
  • Tenantiaeth warchodedig o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1954 gyda chymal terfynu treigl o 3 mis
  • Pwynt gwefru cerbyd trydan ar y safle

Disgrifiad

Uned newydd masnachol modern wedi'u lleoli ym Mharc Diwydiannol Penrhos yng Nghaergybi. Mae Parc Diwydiannol Penrhos yn un o Ardaloedd Menter Llywodraeth Cymru ac mae'r ardal yn gartref i nifer o gwmnïau fel Morrisons, Aldi, Argos, Summit to Sea, Home Bargains, a Môn Fire Management ymhlith eraill.

Mae’r uned yn darparu arwynebedd llawr mewnol gros (GIA) o oddeutu 230 m2 (2,475 troedfedd sgwâr) sy'n cynnwys; swyddfa, toiled, storfa a gweithdy. Mae defnydd B1, B2 a B8 wedi eu cymeradwyo a maent ar gael i busnesau o heddiw ymlaen.

Lleoliad

Mae Stad Ddiwydiannol Penrhos oddeutu milltir i'r de o ganol tref Caergybi, y porthladd a'r orsaf reilffordd ac mae'n hwylus o Gyffordd 2 o wibffordd yr A55 trwy'r A5153.

Gwasanaethau

Deellir bod yr uned wedi ei chysylltu i’r prif gyflenwad dŵr, trydan tair gwedd a’r brif system ddraenio. Awgrymir bod partïon sydd â diddordeb yn sicrhau bod y darpariaethau yn  addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.

EPC

Maer tystysgrif perfformiad ynni wedi ei gofrestru fel (C) (Fydd yr unedau yma yn cael eu hail asesu)

Telerau’r Brydles     
Cytundeb prydles 3 blynedd gyda rhent yn daladwy bob mis ymlaen llaw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am baratoi’r brydles, a fydd yn costio oddeutu £699.37. Mae’r Cyngor gyda pholisi o sicrhau blaendaliadau ar gyfer rhent masnachol sy’n cyfateb i 6 mis o rent. Bydd hwn yn daliad hollol ar wahân i’r rhandaliad rhent cyntaf.

Gwneud Cais

Mae'r uned ar gael i'w osod, yn amodol ar gais llwyddiannus, a bydd angen darparu geirdaon a chynllun busnes.

Datganiadau o Ddiddordeb a Gweld yr Unedau

I fynegi diddordeb, cysylltwch ag Adain Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752245 / 755241 neu YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru

Nodyn Pwysig

  1. Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
  2. Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y Cyngor.
  3. Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
  4. Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
  5. Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.