Rhent:
£15,000
Nodweddion:
- Cyfle i prydlesu eiddo aml-ddefnydd swyddfa a masnachol
- Lleoliad sefydlog ar gyfer busnes a diwydiant gyda chysylltiadau trafnidiaeth da.
- Wedi’i leoli ar y Stryd Fawr yn Nghaergybi, gyda llwybr cyswllt uniongyrchol gyda’r porthladd.
- Tenantiaeth warchodedig o dan Ddeddf Landlord a Thenant 1954.
- Fflat dwy ystafell wely hunangynhwysol wedi'i chynnwys.
Disgrifiad
Mae'r datblygiad modern wedi'i leoli mewn lleoliad masnachol gwych ar brif stryd canol y dref, yn agos at lawer o fân-werthwyr cenedlaethol. Mae'r eiddo'n ffinio'n uniongyrchol â Phont y Porth Celtaidd, sy'n cysylltu'r dref â'r derfynfa fferi a'r orsaf reilffordd ac sy'n mwynhau golygfeydd hyfryd ar y glannau dros yr harbwr.
Tua 500 metr sgwâr (5,381 troedfedd sgwâr) ar draws pum llawr – eiddo aml-ddefnydd a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel adeilad swyddfa, bwyty/caffi/bar. Mynediad deuol a ffryntiad o'r bont a'r brif stryd siopa • Mannau atodol llawn, gweinydd mud, mynediad lifft a grisiau, man llwytho, fflat dwy ystafell wely hunangynhwysol a digon o le parcio gerllaw.
Telerau'r Brydles
Cytundeb prydles 5 blynedd gyda rhent yn daladwy bob mis ymlaen llaw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am baratoi’r brydles, a fydd yn costio oddeutu £699.37. Mae’r Cyngor gyda pholisi o sicrhau blaendaliadau ar gyfer rhent masnachol sy’n cyfateb i 6 mis o rent. Bydd hwn yn daliad hollol ar wahân i’r rhandaliad rhent cyntaf.
Cyfraddau
Deallwn o'n hymholiadau ar wefan VOA bod yr eiddo'n cael ei asesu ar gyfer Trethi fel a ganlyn:- Gwerth Ardrethol £14,500. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn yn rhoi unrhyw warant bod y gwerthoedd a ddarparwyd na'r symiau o arian a fynegir fel rhai sy'n daladwy yn gywir. Dylai unrhyw barti â diddordeb wneud eu hymholiadau eu hunain gyda'r Awdurdod Ardrethu Lleol i gadarnhau bod y ffigurau a ddyfynnir yn gywir.
Gwasanaethau
Deellir bod yr uned wedi ei chysylltu i’r prif gyflenwad dŵr, nwy, trydan tair gwedd a’r brif system ddraenio. Awgrymir bod partïon sydd â diddordeb yn sicrhau bod y darpariaethau yn addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.
Cais
Mae'r uned ar gael i'w gosod, yn amodol ar gais llwyddiannus, a fydd yn cynnwys darparu tystlythyrau a chynllun busnes.
Datganiadau o Ddiddordeb a Golwg
Gellir gwneud hyn trwy gysylltu â'r Adain Eiddo, Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752245 neu e-bost YmholiadauEiddo@ynysmon.gov.uk.
Nodyn pwysig
-
Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
-
Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y Cyngor.
-
Nid yw CSYM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
-
Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
-
Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.
Yn amodol ar Gontract