Rhent Blynyddol: £7,500 allgynhwysol
Nodweddion
- Uned fanwerthu yng nghanol Llannerch-y-medd
- Arwynebedd llawr net oddeutu 158m² (1,700 troedfedd sgwâr)
- Defnydd dosbarth A1 wedi’i sefydlu ac ystyrir yn addas ar gyfer newid defnydd i ddosbarth A2 yn amodol ar ganiatâd cynllunio
- Yn gymwys am 100% o ryddhad trethi busnes (Ionawr 2023)
- Graddfa perfformiad ynni (EPC): C
Disgrifiad
Mae’r eiddo yn uned fanwerthu masnachol llawr gwaelod sydd ag ardal storio (mezzanine) ar y llawr cyntaf. Mae’r eiddo yn un o dair siop cyfagos o fewn pentref Llannerch-y-medd. Mae’r ardal fewnol net oddeutu 158m² (1,700 troedfedd sgwâr) gyda ffenestri llawn ar du blaen yr adeilad. Mae’r eiddo yn cynnwys man adwerthu yn y tu blaen, storfa yn y cefn, llawr cyntaf a thoiled. Mae fflat preswyl uwchben sydd â mynedfa ar wahan. Mae ein Hadain Gynllunio yn ein cynghori bod y defnydd cynllunio yn dod o fewn dosbarth A1 (siopau) ac ystyrir yn addas ar gyfer newid i ddefnydd A2 (gwasanaethau ariannol a phroffesiynol) yn amodol ar sicrhau caniatâd cynllunio. Rydym yn cynnig prydles atgyweirio ac yswirio fewnol.
Gwasanaethau
Deellir bod yr uned wedi ei chysylltu i’r prif gyflenwad dŵr, trydan gwedd sengl a’r brif system ddraenio. Awgrymir bod partïon sydd â diddordeb yn sicrhau bod y darpariaethau yn addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.
Telerau’r Brydles
Cytundeb prydles warchodedig 3 blynedd gyda rhent sy’n daladwy bob mis ymlaen llaw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am baratoi’r les, bydd y gost am hyn oddeutu £659. Mae’r Cyngor gyda pholisi o sicrhau blaendaliadau ar gyfer rhent masnachol sy’n cyfateb i 6 mis o rent. Bydd hwn yn daliad hollol ar wahân i’r rhandaliad rhent cyntaf.
Gwneud Cais
Mae'r eiddo ar gael i'w osod, yn amodol ar gais llwyddiannus, a bydd angen darparu geirda banc, dau eirda busnes (neu dau eirda cymeriad) a chynllun busnes.
Datganiadau o Ddiddordeb a Gweld yr Unedau
I fynegi diddordeb, cysylltwch ag Adain Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn ar 01248 752245 / 755241 neu drwy anfon ebost i YmholiadauEiddo@ynysmon.llyw.cymru erbyn hanner dydd, dydd Gwener 24 Chwefror 2023. Gellir gweld yr unedau trwy apwyntiad yn unig.
Nodyn Pwysig
(1) Nid yw'r manylion hyn yn rhan o unrhyw gynnig na chontract.
(2) Mae'r holl ddisgrifiadau, ffotograffau a chynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac ni ddylid dibynnu arnynt fel datganiadau neu gynrychioliadau o ffaith. Mae'r holl ardaloedd, mesuriadau neu bellteroedd yn rhai bras. Mae'r testun, y ffotograffau a'r cynlluniau ar gyfer arweiniad yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn gynhwysfawr. Rhaid i unrhyw ddarpar brynwr fodloni ei hun ar gywirdeb y wybodaeth yn y manylion trwy archwiliad neu fel arall. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod gan yr eiddo'r holl hawliau cynllunio, rheoliadau adeiladu neu gydsyniadau eraill angenrheidiol. Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn (“CSYM”) wedi profi unrhyw gyfarpar, offer, gosodiadau, ffitiadau na gwasanaethau ac nid ydynt wedi gwirio eu bod yn gweithio'n iawn, yn addas at eu diben, nac o fewn perchnogaeth y Cyngor.
(3) Nid yw CYSM yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau darpar brynwyr wrth archwilio eiddo sydd wedi'u gwerthu, eu gosod neu eu tynnu'n ôl.
(4) Oni ddywedir yn wahanol, nid yw'r prisiau a'r rhenti a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Yn amodol ar gontract.
(5) Os oes unrhyw beth o bwys arbennig i chi, cysylltwch ag Adain Eiddo CSYM a byddwn yn ceisio gwirio'r wybodaeth ar eich rhan.