Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun peilot ar gyfer Llangefni ac Amlwch


Mae Cyngor Sir Ynys Mon yn chwilio am fynegiadau diddordeb gan berchnogion neu ddeilwyr prydles eiddo masnachol yng nghanol trefi Llangefni ac Amlwch.

Efallai y bydd modd rhoi cymorth ariannol ar gyfer gwelliannau ffisegol i eiddo.

Bydd angen i waith sy’n derbyn grant fod wedi ei orffen erbyn mis Mawrth 2024.

Mae’r cynllun yn dibynnu ar brosiectau fod yn gymwys ar gyfer cyllid Grant Creu Lle dan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru drwy’r cyngor.

Nid yw cynnig grant yn ddilys hyd nes bydd y perchennog / deilydd les wedi derbyn amodau cynnig ffurfiol ysgrifenedig gan y cyngor sir. Byddai unrhyw waith a wneir cyn derbyn cytundeb grat ar eich cost eich hun. Efallai y bydd ffioedd professiynol perthnasol yn gymwys.

Cymwysedd

  • Mae’r math yma o gymorth ar ddisgresiwn y Cyngor
  • Rhaid i’r eiddo fod o fewn ardal canol tref Amlwch neu Llangefni.
  • Rhaid i’r eiddo fod mewn neu ar gyfer defnydd masnachol, ond gall lloriau uchaf fod mewn defnydd preswyl (mae cynlluniau eraill yn gallu cefnogi defnyddiau preswyl).
  • Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i gynlluniau sy’n dod ag eiddo gwag yn ol i ddefnydd, a/neu sy’n creu gwellianau gweledol cyhoeddus sylweddol o’i gymharu a’r sefyllfa presennol.
  • Rhaid i’r gwaith a defnydd yr eiddo fodloni anghenion statudol perthnasol ee rheolau cynllunio, ardal cadwraeth, rheolau adeiladu a diogelwch tan.
  • Rhaid cytuno’r gwaith cymwys, a cael ei archwilio gan y Cyngor.
  • Mae hwn yn gynllun peilot gyda cyllideb cyfyngedig a dim ond nifer fach o gynlluniau y bydd modd eu cefnogi.

Os oes cytundeb gan y cyngor, efallai y bydd yn bosib defnyddio’r grant yma ar y cyd gyda chefnogaeth ariannol arall ee benthyciadau gan y Tim Tai Gwag, yn amodol ar fodloni anghenion cyllido cyfatebol Llywodraeth Cymru.

Mae nifer o gynlluniau cymorth ariannol eraill ar gyfer gwella eiddo canol trefi ac eiddo gwag ar Ynys Mon – gweler tudalenau gwefan y Cyngor ar gyfer Tai Gwag Trigolion (llyw.cymru) ac Adfywio Canol Trefi Adfywio canol tref (llyw.cymru)

Amodau sylfaenol

  • Uchafswm y grant posib ydi 65% o gyfanswm cost y gwaith cymwys, hyd at uchafswm o £49,999 mewn grant.
  • Mae angen cadarnhad y byddwch yn gallu cyllido’r gwananiaeth rhwng cyfanswn cost y gwaith a swm y grant.
  • Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i gymeryd pridiant tir lleol am gyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad cwblhau’r gwaith.
  • Mae’n bosib y bydd angen ad-dalu’r grant yn llawn neu yn rhannol os ydi’r eiddo yn cael ei werthu neu ei droi i ddefnydd anfasnachol o fewn 5 mlynedd i gwblhau’r gwaith.
  • Rhaid i’r ymgeisydd fod yn berchen ar yr eiddo, neu fod a les gyda o leiaf 7 mlynedd yn weddill ar ol cwblhau’r gwaith a bod efo caniatad ysgrifendig y perchennog i’r gwaith ac amodau’r grant.
  • Rhaid i’r prosiect fodloni amodau Grant Creu Lle rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
  • Dim ond costau sy’n uniongychol berthnasol i welliannau eiddo sy’n gymwys am y grant cyfalaf yma.

Ffurflen mynegi diddordeb

I gael eich ystyried ar gyfer y cynllun, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen mynegi diddordeb. 

Dyddiad cau: 29 Medi 2023

Ewch i'r ffurflen mynegi diddordeb ar-lein

Ymholiadau am y cynllun

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y cynllun yma i:

Tîm Adfywio
Cyngor Sir Ynys Môn
Canolfan Busnes Môn
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7XA

Ffôn 01248 752 435

E-bost: datecon@ynysmon.llyw.cymru

Cynlluniau eraill

Mae yna nifer o gynlluniau cymorth ariannol eraill a all fod yn berthnasol i wella adeiladau canol tref neu eiddo gwag ar Ynys Môn.

Hysbysiad preifatrwydd

Mae gennych hawl i wybod sut mae gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei defnyddio gennym ni.