Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymunedau Mentrus: Cronfa Rhaglen ARFOR Lleol ar Ynys Môn


Mae hwn yn grant cefnogi menter ar gyfer busnesau hyfyw sydd yn masnachu ac yn bodloni amodau Arfor.

Mae'r gronfa yn cael ei weinyddu gan y Cynghor Sir, ac yn gallu darparu:

  • Cyllid i gyfrannu at gostau refeniw a chyfalaf ar brosiectau cymwys
  • Cefnogaeth ariannol i dalu hyd at 70% o gostau cymwys ar y prosiect
  • Cefnogaeth rhwng £5,000 a £75,000 ar gael

Mae’r gronfa Cymunedau Mentrus yn un cystadleuol a dewisol a bydd gwerth am yr arian/cyfraniad arall yn ystyriaeth pwysig.

Bydd swm unrhyw gyfraniad y lleiafswm sydd ei angen i’r prosiect ddigwydd, ac yn adlewyrchu lefel y buddion i amcanion Arfor ar Ynys Môn, yn cynnwys buddion economi lleol a buddion i ddyfodol yr Iaith Gymraeg yn lleol.

Mae rhaglen Arfor wedi adnabod y canlynol fel rhai posib i’w cefnogi:

  • Creu cyfle i arloesi a datblygu mentrau newydd yn unol a iaith, diwylliant, treftadaeth, adnoddau, budd cymunedol, tirwedd a'r amgylchedd lleol.
  • Creu neu ehangu cyfleoedd gwaith cyfoes (er enghraifft ym meysydd y cyfryngau, y byd digidol, ymchwil, gwasanaethau proffesiynol) er mwyn cadw pobl / teuluoedd ifanc yn eu cymunedau.
  • Cadw cyfoeth yn y rhanbarth (er enghraifft drwy uchafu buddion lleol, cynhyrchu ac arbed ynni er budd lleol ehangach, cadwyni cyflenwi ac ail-ddefnyddio lleol, perchnogaeth lleol o asedau pwysig).

Proses ymgeisio 

Mae na ofyniad i ymgeiswyr gwblhau asesiad Iaith Gymraeg sy'n cael ei gynnal gan Comisiynydd y Iaith fel rhan o'r proses ag ymrwymo i weithio gyda'r Comisiynydd y Iaith i gael cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg erbyn Rhagfyr 2024.

Bydd pob cais am grant yn ddarostyngedig i wiriadau diwydrwydd dyladwy, a bydd y rhai sy'n ceisio am symiau grant mwy yn darostyngedig i graffu ychwanegol.

Bydd unrhyw gais am £25,000+ hefyd yn cael ei adolygu gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

Rhagwelir y bydd cronfa grantiau cymorth busnes mwy cyffredinol ar gael drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn ystod 2023/24 a 2024/25 a bydd manylion yn cael eu cyhoedduso pan fydd rhain ar gael. Os cytunwch, bydd eich mynegiad diddordeb yn cael ei rannu gyda’r rhai sy’n gweinyddu cronfeydd yma.

Gwneud cais

Mae’r broses mynegi diddordeb bellach wedi cau.

Cysylltwch ag arfor@ynysmon.llyw.cymru gyda unrhyw ymholiadau.

Gwybodaeth cais wreiddiol

Dylai’r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer grant Cymunedau Mentrus ARFOR:

  • Ddarllen a deall y canllawiau (Mae PDF yn agor mewn tab newydd).
  • Sicrhau cymorth cynghorydd busnes drwy Busnes Cymru, neu asiantaeth arall perthnasol.
  • Gael asesiad os ydi’r cynllun yn edrych yn gymwys dan Arfor, neu yn ymddangos yn fwy addas i gronfeydd eraill.
  • Ddatblygu eu cynllun busnes, yn cynnwys manylion costau’r prosiect.
  • Gwblhau asesiad Iaith Gymraeg (gellir gael cymorth gan Fenter Iaith Môn).
  • Gwblhau datganiad o ddiddordeb drwy'r ffurflen hon.

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr cwblhau datganiad o ddiddordeb ar gyfer adolygiad o addasrwydd/cymhwysedd cyn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn.

Ewch i ffurflen mynegi diddordeb ar-lein

Cysylltu

E-bost: arfor@ynysmon.llyw.cymru

Asesiad Iaith Gymraeg: Menter Iaith Môn (gwefan allanol)

Adnoddau