Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Taith Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn dod i Gaergybi ar 29 Mehefin

Wedi'i bostio ar 22 Mehefin 2022

Dyma’r unfed tro ar bymtheg i Daith Baton swyddogol y Frenhines gael ei chynnal ac mae’n cyd-fynd â Gemau’r Gymanwlad, Birmingham 2022.

Bwriad y daith yw dod â chymunedau ar draws y Gymanwlad ynghyd a’u dathlu yn ystod y cyfnod cyn y Gemau. Yng Nghymru, bydd Taith Baton y Frenhines yn rhoi cyfle i gymunedau gael blas ar gyffro Birmingham 2022, wrth i'r 11 diwrnod o chwaraeon gwefreiddiol agosáu.

Bydd Taith Baton y Frenhines yn treulio pum diwrnod yng Nghymru, cyn dychwelyd i Loegr cyn Seremoni Agoriadol Birmingham 2022 ar 28 Gorffennaf 2022. Bydd y Daith yn cychwyn yng Nghaergybi, Ynys Môn ar Ddydd Mercher 29 Mehefin ac yna yn teithio tua’r De cyn cyrraedd Abertawe ar Ddydd Sul 3 Gorffennaf.

Mae rhaglen llawn digwyddiadau a gweithgareddau ar y gweill, a bydd cyfle i ni glywed hanes y Cludwyr Baton sy’n gweithio’n galed i sicrhau newid yn eu cymuned.

Bydd Baton y Frenhines yn cyrraedd Gorsaf RNLI Caergybi am 8.45am o’r gloch (côd-post: LL65 1YA). Yn dilyn mi fydd gweithgareddau ar y cae 3G newydd ym Mharc Caergybi a chaeau chwarae Ysgol Millbank gan gynnwys rygbi tag a chystadlaethau tenis.

Anogir y cyhoedd i gymryd rhan yn y dathliadau a chroesawu’r Baton, fel y gallant gael blas ar gyffro Birmingham 2022 yn eu cymuned. Bydd gwefan Tîm Cymru yn cael ei diweddaru dros yr wythnosau nesaf i gynnwys manylion am y digwyddiadau a fydd yn cael ei chynnal ynghyd â llwybr Taith y Baton.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Rydym yn falch iawn o hanes cyfoethog a llwyddiannau’r Ynys ym myd chwaraeon. Rydym wrth ein bodd bod ein Hynys wedi cael ei dewis i gynnal Taith Baton y Frenhines, cyn y bydd yn dychwelyd i ddinas Birmingham ar gyfer seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad 2022.”

Ychwanegodd, “Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i ni arddangos ein hynys hardd a chlywed straeon anhygoel gan y rheiny fydd yn cael y fraint o gludo’r Baton.”

Bydd cannoedd o Gludwyr, pob un â straeon ysbrydoledig, yn cael y fraint o gario’r Baton ar ei daith drwy Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys pobl sydd wedi cael eu henwebu am eu cyfraniad i’r gymuned leol - boed hynny ym myd chwaraeon, addysg, y celfyddydau, diwylliant neu elusen.

Yn Ynys Môn, 23 o bobl ifanc o ysgolion uwchradd lleol a Coleg Llandrillo Menai fydd yn cludo’r Baton. Byddant yn cario’r Baton o’r Orsaf RNLI i Ganolfan Gymunedol Millbank.

Yn ystod y daith, bydd y Baton yn teithio ar y tir, yn yr awyr ac ar y môr a bydd yn ymweld â dinasoedd bywiog a threfi marchnad, ac yn teithio drwy gefn gwlad godidog ac ar hyd yr arfordir garw.

Cynhaliwyd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines am y tro cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad, Caerdydd 1958, ac mae wedi bod yn draddodiad fyth ers hynny.

Cychwynnodd Taith Baton y Frenhines, Birmingham 2022 ym Mhalas Buckingham ar 7 Hydref 2021, wedi i’r Frenhines roi ei Neges i’r Gymanwlad yn y Baton a’i drosglwyddo i Kadeena Cox (enillydd medal aur yn y Gemau Paralympaidd) a Lauren Price (enillydd medal aur ac aelod o Dîm Cymru 2018), sef y ddwy a gafodd y fraint o gludo’r Baton gyntaf allan o’r miloedd a Gludwyr a fydd yn cario’r Baton ar hyd y Daith.

Mae’r Baton wedi ymweled â gwledydd a thiriogaethau’r Gymanwlad yn Ewrop, Affrica, Ynysoedd y De, y Caribî ac America. Y Deyrnas Unedig yw rhan olaf y daith a bydd y Baton yn treulio pum diwrnod yn yr Alban, pedwar diwrnod yng Ngogledd Iwerddon a phum diwrnod yng Nghymru. Bydd y Daith yn dod i ben yng Nghymru ar 3 Gorffennaf, a bydd y Baton yn dychwelyd i Loegr cyn y Gemau.

Mae rhaglen lawn Tîm Cymru ar gael ar wefan Tîm Cymru.

Dywedodd Chris Jenkins, Prif Weithredwr Gemau’r Gymanwlad Cymru, ‘’Rydw i bob amser yn mwynhau bod yn rhan o Daith Baton y Frenhines yn arw. Mae’n rhoi cyfle i ni deithio ar hyd a lled Cymru, ymgysylltu â chymunedau a bod yn rhan o gymaint o wahanol ddigwyddiadau – mae’n dod â ni at ein gilydd fel cenedl, a bydd yn bendant yn ychwanegu at y cynnwrf i Dîm Cymru cyn y cystadlu yn Birmingham yn yr haf.”

Ychwanegodd, “Mae awdurdodau lleol wedi treulio misoedd yn cynllunio’r digwyddiadau hyn i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel, yn ddidrafferth ac, yn bwysicach fyth, yn ddiddorol a llawn hwyl. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith am eu hamser, eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r Baton i Gymru. Byddwn yn ymweld ag ysgolion a lleoliadau hanesyddol ac yn cael cyfle i arddangos tirwedd arbennig Cymru.”

Baton y Frenhines

Crëwyd Baton y Frenhines, Birmingham 2022 yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr drwy gyfuno celf, technoleg a gwyddoniaeth. Mae wedi’i wneud o gopr, alwminiwm a dur ac mae hefyd yn cynnwys darn o blatinwm i nodi Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Y mae hefyd yn cynnwys camera 360̊, monitor curiad y galon, synwyryddion atmosffer a golau LED.

Am ragor o wybodaeth ar Daith Baton y Frenhines ewch i www.birmingham2022.com/qbr

Efallai y bydd yr wybodaeth a ddarparwyd am y daith drwy Gymru yn newid.

Diwedd 22 Mehefin 2022

Am ragor o wybodaeth am Daith Baton y Frenhines yng Nghymru, Tîm Cymru neu Gemau’r Gymanwlad Cymru, cysylltwch â Cathy.Williams@teamwales.cymru

Nodyn i olygyddion

Mae delweddau a chlipiau fideo o Daith Ryngwladol Baton y Frenhines ar gael i’w lawr lwytho yma: https://www.dropbox.com/sh/c2djp3ht3w6p0cd/AADLANtNcPkQ5_nQRoSAugG8a?dl=0

Ynglŷn â Taith Baton y Frenhines, Birmingham 2022

Dyma’r unfed tro ar bymtheg i Daith Baton swyddogol y Frenhines gael ei chynnal. Bwriad y daith yw dod â chymunedau ar draws y Gymanwlad ynghyd cyn Gemau’r Gymanwlad, Birmingham 2022.

Mae’r Baton eisoes wedi ymweld ag Ewrop, Affrica, Ynysoedd y De, y Caribî a gwledydd America, a bydd yn dychwelyd i Loegr ym mis Gorffennaf 2022 cyn Gemau’r Gymanwlad.

Bydd Baton y Frenhines yn teithio o amgylch Lloegr am 25 diwrnod, cyn y bydd y Daith yn gorffen yn swyddogol yn ystod Seremoni Agoriadol Gemau’r Gymanwlad ar 28 Gorffennaf 2022. Mae’r Daith yn ddigwyddiad traddodiadol, sy’n cysylltu a chyffroi cymunedau o bob cwr o’r Gymanwlad cyn y Gemau.

Y nod yw sbarduno gobaith, undod a chydweithrediad ymysg y genhedlaeth nesaf, a bydd y straeon yn ein hysgogi i wynebu’r heriau sydd bwysicaf i ni.

Ynglŷn â Gemau’r Gymanwlad, Birmingham 2022

Cynhelir Gemau’r Gymanwlad, Birmingham 2022 rhwng 28 Gorffennaf a 8 Awst 2022. Bydd yn gyfle unwaith mewn oes i roi’r ddinas, rhanbarth a’i phobl ar lwyfan byd-eang.

Mae’r Gemau eisoes wedi trawsnewid y rhan yma o Loegr ac wedi denu buddsoddiadau a chyllid newydd, creu swyddi a phrentisiaethau i bobl leol a chynnig cyfleoedd newydd i fusnesau lleol, yn ogystal â symud prosiectau yn eu blaen i sicrhau bod y rhanbarth yn barod i gynnal y gemau sy’n dathlu chwaraeon a diwylliant.

Bydd Gemau Birmingham 2022 yn Gemau i Bawb. Bydd yn dod â phobl at ei gilydd o bob cwr o Birmingham a’r rhanbarth, a bydd yn croesawu miliynau o ymwelwyr yn ystod haf 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.birmingham2022.com     


Wedi'i bostio ar 22 Mehefin 2022