Cyngor Sir Ynys Môn

Strydoedd trefi Môn wedi eu trawsnewid o ganlyniad i’r fenter ‘Paentio’r Dref’

Mae’r stryd fawr yn nhrefi Môn yn cael ei thrawsnewid diolch i’r fenter ‘Paentio’r Dref’ a ddatblygwyd ac a gyflawnwyd gan MônCF gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn.

Yn 2024/25 bu’r prosiect wella edrychiad 60 adeilad ar draws yr Ynys. Bydd 80 eiddo arall yn elwa yn 2025/26 gan ddod â chyfanswm nifer yr adeiladau sydd wedi eu gwella yng nghanol ein trefi i 140.

Eglurodd Rita Stewart, Prif Weithredwr MônCF:

“Daeth y prosiect ‘Paentio’r Dref’ o’r syniad fod côt o baent ac ychydig o waith tacluso yn gallu gwneud gwir wahaniaeth i’r teimlad sydd gan bobl am eu trefi. Tu hwnt i wella’r edrychiad, mae’n helpu i greu mannau lle bydd pobl yn mwynhau treulio amser ac yn teimlo’n falch ohonynt.

Ychwanegodd, “Mae’r adeiladau lliwgar, deniadol yn cyfrannu at awyrgylch positif a gall helpu i roi hwb i adfywiad y stryd fawr.”

Lansiwyd y cynllun peilot yn 2024 gan ganolbwyntio i ddechrau ar Amlwch a Chaergybi. Yn dilyn ei lwyddiant, mae’r rhaglen 2025 yn parhau i weithio yn y trefi hynny ac mae’r cynllun wedi’i ymestyn i Llangefni lle mae dwy res o eiddo yn cael eu trawsnewid ar hyn o bryd.

Er mwyn sicrhau’r effaith mwyaf a’r gwerth gorau am arian, mae’r cynllun yn blaenoriaethu grwpiau amlwg o eiddo ar y stryd fawr sy’n sownd i’w gilydd. Mae nifer o gontractwyr sgaffaldau a phaentio lleol wedi eu cyflogi i gyflawni’r gwaith.

Mae cydweithio agos gydag perchnogion adeiladau a Chynghorau Tref lleol hefyd wedi bod yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn ac Deilydd Portffolio Datblygu’r Economi y Cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard:

“Rwy’n croesawu’r fenter hon a’r gwaith rhagorol y mae MônCF a’r contractwyr lleol yn ei wneud.”

“Mae’n amlwg yn gwneud gwahaniaeth gweladwy i ba mor ddeniadol yw’r stryd fawr o fewn ein trefi ac mae’n cefnogi ein hymrwymiad i gefnogi’r economi a busnesau lleol i dyfu a ffynnu, fel yr amlinellir yng Nghynllun y Cyngor.”

Mae’r cynllun wedi’i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a rhaglen creu lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Sir Ynys Môn. 

Diwedd 3 Medi 2025 

Nodyn i olygyddion 

  • Cyhoeddodd MônCF alwad agored am fynegiannau o ddiddordeb gan berchnogion eiddo yn yr ardaloedd targed.
  • Rhaid i’r perchnogion sy’n cymryd rhan gytuno i delerau ac amodau’r cynllun, sy’n cynnwys ymrwymiad i gynnal a chadw’r adeilad yn y dyfodol.
  • MônCF sy’n gyfrifol am drefnu a goruchwylio’r gwaith.
  • Mae’r cynllun bellach yn llawn ar gyfer 2025.
  • Lluniau cyn ac ar ôl gwneud y gwaith ar gael ar gais.

Cyswllt MônCF

 E-bost: info@moncf.co.uk

Rhif ffôn: 01407 762 004

Gwefan: www.moncf.co.uk