Cyngor Sir Ynys Môn

Gwaith yn dechrau ar gysylltiad teithio llesol newydd yn Malltraeth a Niwbwrch

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn falch o gadarnhau’r cam nesaf i ddarparu llwybr gwyrdd di-draffig newydd yn ne Ynys Môn, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a Grwp Llywio Glasffordd Môn.

Bydd y llwybr yn cysylltu'r Cob ym Malltraeth â Niwbwrch, gan greu cysylltiad diogel a hygyrch i gerddwyr a beicwyr.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o uchelgais ehangach y cyngor i wella llwybr Lôn Las Cefni ac mae'n cefnogi gweledigaeth Glasffordd Môn - llwybr gwyrdd ledled Ynys Môn sy'n fuddiol i gymunedau lleol, tirweddau ac ecosystemau.

Mae’r llwybr wedi’i ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, yn cael ei reoli gan Drafnidiaeth Cymru, ac mae wedi'i gynllunio i gydymffurfio â safonau Deddf Teithio Llesol Cymru, gan adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol i wella seilwaith cerdded a beicio ledled Cymru.

Derbyniodd gweledigaeth Glasffordd Môn gefnogaeth dda gan y cyhoedd yn ystod ymgynghoriad yn 2022. Cadarnhaodd ymgynghoriad pellach ar y cynllun hwn, a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2024, gymeradwyaeth gan drigolion a rhanddeiliaid, yn enwedig ar gyfer cysylltiadau teithio llesol mwy diogel a hygyrch.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn, Huw Percy:

“Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â’r cysylltiad presennol rhwng cymunedau Malltraeth a Niwbwrch. Drwy greu llwybr teithio llesol pwrpasol, rydym yn darparu ffordd ddiogel, gynaliadwy a hygyrch i drigolion gerdded a beicio rhwng y pentrefi.”

Ychwanegodd, “Mae hyn yn cefnogi teithiau bob dydd, ond mae hefyd yn cryfhau cydlyniant cymdeithasol ac yn hyrwyddo dewisiadau teithio iachach a mwy cynaliadwy.”

Targedau’r prosiect

  • Ailgysylltu Malltraeth a Niwbwrch drwy ddarparu llwybr teithio llesol diogel.
  • Gwella’r cysylltiad gyda chyrchfannau allweddol i drigolion, gan gynnwys canol y pentref ac Ysgol Santes Dwynwen.
  • Cryfhau cysylltiadau â Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.
  • Cyflawni buddion bioamrywiaeth drwy liniaru ecolegol a gwella cynefinoedd.

Gwaith adeiladu

  • Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar 1 Medi 2025 ac yn parhau hyd at ddechrau 2026.
  • Y prif gontractwr ar gyfer y cam hwn fydd Jones Bros Civil Engineering UK.

Bydd y gwaith yn cynnwys:

  • sefydlu llwybr aml-ddefnydd 1.25km ar gyfer cerddwyr a beicwyr, wedi'i wahanu oddi wrth draffig, o Faes Parcio Pen Cob i ymyl Niwbwrch
  • cyflwyno mesurau tawelu traffig a bwrdd uwch ym mhentref Niwbwrch i wella diogelwch
  • gosod pedwar rhwystr allanol ar hyd y Cob i greu ardaloedd gwylio mwy diogel a lleihau gwrthdaro posibl rhwng defnyddwyr

O ystyried lleoliad y llwybr mewn ardaloedd sensitif, gan gynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), mae'r cyngor wedi ymrwymo i ddarparu amddiffyniadau amgylcheddol cryf.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • adfer cynefinoedd ym Mhwll Traeth Bach i gefnogi ystod eang o rywogaethau
  • monitro ecolegol parhaus a chydweithio ag arbenigwyr i sicrhau buddion bioamrywiaeth hirdymor

Dywedodd Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru:

“Rydym yn falch o gefnogi’r cyngor ar y prosiect hwn fel rhan o’n partneriaeth gymunedol yn Niwbwrch. Bydd ymestyn llwybr Lôn Las Cefni yn gwella cysylltedd â gwasanaethau a chyrchfannau allweddol ac yn darparu manteision iechyd a lles i drigolion ac ymwelwyr.”

Ychwanegodd, “Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i wella’r amgylchedd cyfagos trwy adfer cynefinoedd a gwelliannau bioamrywiaeth, gan sicrhau bod y llwybr yn helpu pobl a natur i ffynnu. Bydd y dull integredig hwn yn cryfhau mynediad cymunedol wrth hyrwyddo gwydnwch ecolegol hirdymor.”

Os hoffech ddysgu mwy am y prosiect Teithio Llesol rhwng Malltraeth a Niwbwrch, mae croeso i chi fynychu ein sesiwn galw heibio yn Sefydliad Pritchard ddydd Iau, Medi 4.

Bydd staff Cyngor Sir Ynys Môn ar gael o 1yp tan 7yn i ateb eich cwestiynau. Nid oes angen gwneud apwyntiad.

Diwedd 26 Awst 2025