Gall teuluoedd ledled Ynys Môn bellach wneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ar gyfer plant dwy oed, wrth i Lywodraeth Cymru fynd ati i gyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig.
O 7 Medi 2026, bydd holl rieni a gofalwyr plant dwy oed ar Ynys Môn yn gallu gwneud cais am 12.5 awr yr wythnos o ofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, dim ots ymhle y maent yn byw yn yr awdurdod lleol. O dan y cynnig cyffredinol newydd, bydd yr oriau wedi’u hariannu ar gael i’w defnyddio o 2 Tachwedd 2026 ymlaen, gyda darparwyr sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Gweler rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais ar ein gwefan.
Ynys Môn yw’r awdurdod lleol diweddaraf i ehangu gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed yn eu hardal – carreg filltir arwyddocaol wrth gyflwyno’r cynnig fesul cam drwy awdurdodau lleol ledled Cymru. Bydd yr ehangu hefyd yn cefnogi darparwyr gofal plant ar draws Ynys Môn gan helpu i reoli’r galw cynyddol a chryfhau cynaliadwyedd hirdymor y sector.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Sioned Williams, “Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein bod yn cyflymu ein hymrwymiadau i deuluoedd Cymru. Cymru sydd â’r costau gofal plant uchaf yn y DU ac rydw i’n benderfynol o helpu teuluoedd ledled Cymru, gan gefnogi datblygiad plant ar yr un pryd. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gyflwyno’r cynnig hwn ym mhobman. Mae hyn yn golygu gwario gyda phwrpas – fel bod pob punt yn gweithio’n galetach i Gymru.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Jones, Deilydd Portffolio Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Môn, “Rwy’n falch iawn fod Ynys Môn yn ymestyn gofal plant wedi’i ariannu i bob plentyn dwy oed o fis Medi 2026. Mae hwn yn gam sylweddol i deuluoedd ar draws yr ynys ac mae’n cefnogi’r weledigaeth a nodir yng Nghynllun y Cyngor 2023-2028 o greu Ynys Môn sy’n iach ac yn ffyniannus, lle gall pobl ffynnu.
Drwy fuddsoddi yn ein trigolion ieuengaf, rydym yn helpu i sicrhau bod plant yn cael mynediad at brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel sy’n cefnogi eu datblygiad, eu lles a’u dysgu yn y dyfodol. Bydd y cynnig hefyd yn darparu cymorth i rieni a gofalwyr, gan helpu mwy o deuluoedd i oresgyn rhwystrau i waith neu hyfforddiant sy’n deillio o drefniadau gofal plant.
Mae rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant yn un o’r buddsoddiadau pwysicaf y gallwn eu gwneud ar gyfer dyfodol Ynys Môn, ac mae’r cynnig hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi plant, teuluoedd a chymunedau i ffynnu.”
Diwedd 7 Medi 2026