Cyngor Sir Ynys Môn

Ehangu’r ddarpariaeth i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn ar draethau Ynys Môn

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, bydd cadeiriau olwyn traeth ar gael ym Menllech a Llanddwyn er mwyn rhoi cyfle i bawb fwynhau arfordir Ynys Môn.

Gyda diolch i nawdd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae Cyngor Sir Ynys Môn bellach yn cynnig mwy o gadeiriau olwyn pwrpasol y gellir eu defnyddio ar dywod.

Mae gan y cadeiriau olwyn hyn deiars mawr, llyfn fel y gellir eu gwthio dros dywod meddal a rhoi cyfle i bawb fwynhau’r traeth.

Mae gwasanaeth morwrol y cyngor yn cefnogi’r fenter ymhellach drwy gyflogi wardeiniaid traeth tymhorol ar hyd a lled yr ynys i helpu ymwelwyr.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi gosod ‘Mobi-Mat’ symudol sydd wedi’i wneud o blastig wedi’i ailgylchu er mwyn sicrhau gwell mynediad i’r traeth yng Ngwarchodfa Natur a Choedwig Niwbwrch.

Yr haf hwn, bydd dwy gadair olwyn i oedolion ac un i blant ar gael ym Menllech ac un cadair olwyn i oedolion ac un i blant yn Llanddwyn.

Mae’r cynllun llwyddiannus hwn yn bosib gyda diolch i’r berthynas agos rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Cyfoeth Naturiol Cymru, wardeiniaid traeth y cyngor a The Bay Cafe (Benllech) er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau arfordir Ynys Môn.

Dywedodd deilydd portffolio Hamdden, Twristiaeth, Morwrol ac Eiddo, y Cynghorydd Alun Roberts:

“Mae’r cynllun hwn yn cefnogi’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor yn gysylltiedig a lles, cynhwysiant a helpu pobl i fyw’n dda yn eu cymuned. Drwy ehangu’r ddarpariaeth rydym yn helpu i sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr sy’n defnyddio cadair olwyn yn gallu mwynhau arfordir Ynys Môn yn ddiogel ac annibynnol ac rydym yn ddiolchgar i Gyfoeth Naturiol Cymru a’n partneriaid am ddarparu’r gwasanaeth hwn.”

Fe ychwanegodd Owen Davies, Warden Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn:
“Mae pobl wir yn gwerthfawrogi arfordir Ynys Môn, ac mae’n bwysig bod cymaint o bobl â phosib yn gallu cael mynediad ato. Mae’n brofiad gwerth chweil gweld defnyddwyr ar y tywod yn mwynhau’r traeth, boed ym Menllech neu Landdwyn, gyda diolch i’r gwasanaeth hwn.”

Rhaid archebu cadeiriau ymlaen llaw. Oherwydd y galw a chapasiti staffio yn Llanddwyn, gofynnir i ymwelwyr archebu cadair olwyn o leiaf wythnos ymlaen llaw.

  • I archebu cadair olwyn ym Menllech, cysylltwch â The Bay Cafe ar 01248 852 700 neu baycafe.caffirbae@yahoo.com. Mae’r cadeiriau ar gael bob dydd rhwng 9am a 5pm, ac eithrio Dydd Llun a Dydd Mawrth.
  • I archebu cadair olwyn yn Llanddwyn, anfonwch ebost i niwbwrch@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i wneud yn siŵr bod cadair ar gael a gwneud trefniadau.

Diwedd 24 Mehefin 2026