Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyllid costau byw i drigolion Ynys Môn

Wedi'i bostio ar 15 Awst 2022

Mae Cyngor Sir Ynys Môn, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd yn gweinyddu cynllun taliadau grant ‘costau byw’ £150 i gartrefi cymwys ar Ynys Môn.

Bydd trigolion lleol sydd â chartrefi ym mandiau treth cyngor A-D a chartrefi A-I sy’n derbyn Gostyngiad Treth Cyngor (y cyfeiriwyd yn flaenorol fel budd-dal treth cyngor) yn gymwys i gael y taliad.

Hyd yma, mae tua 23,000 o dalebau costau byw wedi eu dosbarthu i gartrefi cymwys ar yr Ynys - y gall trigolion eu hawlio yn eu swyddfa bost leol. Mae’r ffigwr cyfwerth â thua 75%-80% o’r cartrefi cymwys ar Ynys Môn.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu’r ‘Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw’ er mwyn targedu’r cartrefi y mae’n ystyried sydd mewn mwyaf o angen a allai fod wedi eu heithrio rhag derbyn cymorth o fewn y prif gynllun.

Mis diwethaf (Mehefin 2022) cymeradwyodd Pwyllgor Gwaith y Cyngor y cynllun ychwanegol a fydd yn gweld £150 yn cael ei ddyfarnu i gartrefi Bandiau A i D sy’n drigolion ond sydd wedi eu heithrio rhag talu Treth Cyngor.

Mae’r taliad hwn yn cynnwys cartrefi lle mae rhai sydd wedi gadael gofal yn byw, y rhai hynny sydd ag anhwylderau meddyliol difrifol ynghyd â thrigolion sy’n byw mewn llety argyfwng, gofalwyr di-dâl, y rhai sydd wedi eu heffeithio gan y cap budd-daliadau a thrigolion mewn llety â chymorth.

Mae’r Pwyllgor Gwaith hefyd wedi cymeradwyo taliad o £150 i gael ei ddosbarthu i drigolion Ynys Môn sydd mewn Addysg Uwch sy’n rhentu neu’n berchen ar lety ar yr Ynys. Bydd Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor yn dosbarthu taliadau i’r myfyrwyr cymwys o Ynys Môn.

Bydd yr elfen ddisgresiwn o gyllid Ynys Môn hefyd yn cynorthwyo cyn-filwyr sy’n profi anhawster ariannol. Bydd y cyllid, yn seiliedig ar angen drwy asesiad, ar gyfer taliad o hyd at £300 y cartref. Bydd Lleng Brydeinig Môn a SSAFA yn dosbarthu’r taliad i gyn-filwyr cymwys.

Gall trigolion sy’n dioddef anhawster ariannol ac nad oes ganddynt fynediad at gyllid ychwanegol (megis y Gronfa Cymorth Dewisol ar gyfer cymorth gyda chostau bwyd a thanwydd) gael cymorth yn seiliedig ar angen wedi’i asesu.

Bydd gwybodaeth bellach am sut i gael eich ystyried am y taliad hwn yn cael ei gyfathrebu erbyn canol i ddiwedd Medi 2022.

Yn ogystal, fe ddylai cartrefi sy’n gymwys ar gyfer taliadau costau byw Llywodraeth y DU (a gyhoeddwyd gan y Canghellor ym mis Mai) er mwyn helpu â chostau cynyddol ynni a bwyd, fod wedi dechrau derbyn rhai taliadau o 14 Gorffennaf 2022 ymlaen. Nid yw’r cyllid hwn yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol ond drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Pa daliadau eraill sy’n cael eu gwneud?

Nid yw’r cyllid hwn yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol ond drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae tri gwahanol daliad costau byw:

  • Y prif daliad costau byw, gwerth cyfanswm o £650, ar gyfer y rhai hynny ar fudd-daliadau cysylltiedig ag incwm a chredydau treth;
  • Y taliad pensiynwyr, gwerth £300, ar gyfer pawb sy’n derbyn y taliad tanwydd gaeaf
  • Y taliad anabledd, gwerth £150, ar gyfer y rhai hynny ar fudd-daliadau anabledd na gyfrifir ar sail modd.

Y cyntaf o’r rhain yw’r un fydd yn dechrau cael ei dalu o fis Gorffennaf. Bydd y taliad costau byw anabledd yn cael ei dalu o fis Medi a bydd y taliad pensiynwyr yn dod ym mis Tachwedd.

Sut fydd yr arian yn cael ei dalu?

Mae’r £650 yn cael ei dalu mewn dau ran - £326 yw’r taliad cyntaf a £324 yw’r ail. Bydd yr arian yn cael ei dalu i mewn i’r un cyfrif y mae eich budd-daliadau yn cael eu talu iddo a bydd yn dangos fel “DWP Cost of Living”.

Fe ddylai gael ei dalu’n awtomatig i bawb sy’n gymwys – does dim angen i chi wneud cais amdano.

Pwy sy’n gymwys am y taliad £650?

Mae disgwyl y bydd tua 8.2 miliwn o gartrefi yn gymwys. Er mwyn bod yn gymwys, mae angen i chi fod yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA).
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA).
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd treth plant
  • Credyd treth gwaith

Os ydych yn derbyn lwfans cyflogaeth a chymorth o’r math newydd, lwfans cyfraniad a chymorth cyflogaeth neu’r math newydd o lwfans ceisio gwaith ond nad ydych yn cael credyd cynhwysol, ni fyddwch yn gymwys. Os ydych yn derbyn budd-dal tai ond dim o’r budd-daliadau perthnasol, ni fyddwch yn cael taliad chwaith.

Gall teuluoedd sy’n derbyn cymorth lles, un ai yn llawn neu’n rhannol, gael mynediad i’r cyllid argyfwng canlynol:

https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf

Diwedd 15 Awst 2022


Wedi'i bostio ar 15 Awst 2022