Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Arolwg Porthaethwy i fesur effaith ar ganol y dref

Wedi'i bostio ar 18 Tachwedd 2022

Mae gofyn i siopau a busnesau ym Mhorthaethwy rannu eu profiadau am effaith diweddar cau’r bont.

Cafodd Pont Borth ar yr A5 ei chau i’r holl draffig yn ddiweddar a hynny ar unwaith ar 21 Hydref. Gwnaed y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd ar ôl i risgiau difrifol gael eu hadnabod ac i beirianwyr strwythurol argymell cau’r bont.

Er bod y bont wedi cau, mae siopau a busnesau dal i fod ar agor a wir angen cefnogaeth siopwyr lleol.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn bellach wedi paratoi arolwg ar-lein er mwyn i fusnesau allu dweud eu dweud yn dilyn adroddiadau bod llai o bobl yn mynychu’r dref ac felly bod busnesau ar eu colled.

Gobeithir y bydd y data a ddarperir yn yr arolwg yn cryfhau achos y cyngor er mwyn gallu cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio cefnogi’r busnesau lleol.

Bydd mwy na 80 o fusnesau lleol yn cael eu cysylltu â nhw yn uniongyrchol er mwyn gofyn iddynt lenwi’r arolwg ar-lein drwy ddarparu gwybodaeth am y ffordd mae eu busnesau wedi eu heffeithio arnynt ac i ba raddau.

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, sydd hefyd yn ddeilydd portffolio Datblygiad Economaidd. “Mae Pont Borth yn gysylltiad hanfodol wrth deithio i ganol y dref. Er bod y bont ar gau – mae siopau’r dref dal i fod ar agor wrth gwrs ac angen ein cefnogaeth.”

“Mae busnesau lleol wedi adrodd gostyngiad yn nifer y bobl sy’n ymweld â nhw ers cau’r bont. Rydym yn gobeithio y bydd yr arolwg hwn yn hanfodol er mwyn gweld pa effaith mae hyn wedi’i gael ar siopau a busnesau yn y dref.”

Ychwanegodd, “Rydym eisoes yn cynnal trafodaethau â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru o ran yr effaith mae cau’r bont wedi cael ar fusnesau lleol. Mae Busnes Cymru hefyd yn cynorthwyo busnesau yn y dref. Gobeithiwn y bydd yr arolwg ar-lein yn darparu gwybodaeth am yr effaith ar fusnesau a’n helpu ni greu achos ar gyfer ymyrraeth bellach, os oes angen. Byddwn felly yn annog busnesu lleol i’w lenwi cyn gynted â phosibl.”

Mae’r cyngor sir yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Menter Môn, Cyngor Tref Porthaethwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor er mwyn lleihau effaith cau’r bont.

Gall busnesau Porthaethwy ofyn am ddolen i’r arolwg ar-lein drwy anfon neges at DatEcon@ynysmon.llyw.cymru os na fyddant yn derbyn un yn uniongyrchol i’w cyfeiriad e-bost erbyn 21 Tachwedd.

Diwedd 17 Tachwedd 2022


Wedi'i bostio ar 18 Tachwedd 2022