Rhybudd statudol: Ysgol Corn Hir
Rhybudd statudol yw hwn sy’n dweud y bydd Ysgol Corn Hir yn derbyn plant 3 oed yn rhan amser ar 1 Medi 2023.
Hysbysir drwy hyn yn unol ag adran 42 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion fod Cyngor Sir Ynys Môn, ar ôl ymgynghori â'r cyfryw bersonau ag sy'n ofynnol, yn cynnig i ostwng yr oedran mynediad yn Ysgol Corn Hir, Ffordd Cildwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7YW i dderbyn disgyblion yn rhan- amser o’r Medi yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed.
Ar hyn o bryd mae Ysgol Corn Hir yn derbyn plant llawn amser yn y Medi yn dilyn eu penblwydd yn 4 oed. Cynhelir yr ysgol gan Cyngor Sir Ynys Môn.
Cynhaliodd Cyngor Sir Ynys Môn gyfnod ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi'r cynnig hwn. Mae adroddiad ar yr ymgynghoriad sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan ymgynghoreion, ymatebion y cynigwyr a barn Estyn ar gael ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn (www.ynysmon.llyw.cymru)
Cynigir gweithredu'r cynnig ar 1 Medi 2023. Cyngor Sir Ynys Môn (yr awdurdod lleol) fydd yr awdurdod derbyn.
Bydd lle yn y feithrinfa i 50 o blant 3 oed yn rhan amser yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu.
Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig cyn pen cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r cynnig hyn, hynny yw erbyn 17:00 ar y 14 Tachwedd 2022. Rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau’n ysgrifenedig neu mewn e-bost a dylid anfon gwrthwynebiadau at y Rheolwr Rhaglen, Trawsnewid Corfforaethol , Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW neu at ysgolionmon@ynysmon.llyw.cymru.
Marc Berw Hughes
Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar ran Cyngor Sir Ynys Môn
13 Hydref 2022