Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Alla i ymweld ag ysgolion?


Yn draddodiadol, pan fydd eich plentyn yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd, byddech chi a’ch plentyn wedi cael cyfle i fynychu diwrnodiau a nosweithiau agored cyn gwneud cais i’r ysgol, i gael gweld y gwaith aruthrol sy’n digwydd ym mhob ysgol ac i dderbyn gwybodaeth yn benodol ar gyfer eu hysgolion.

Mae’r pandemig Coronafeirws wedi gorfodi ysgolion i ystyried ai hyn yw’r peth iawn i’w wneud dan yr amgylchiadau presennol.

Mae holl ysgolion Môn wedi penderfynu na fyddant yn cynnal unrhyw nosweithiau agored yn eu hysgolion eleni.

Diogelwch ein pobl ifanc sy’n dod gyntaf, ac mae cael grwpiau mawr o ddisgyblion a rhieni yn mynychu nosweithiau agored yn cynyddu’r risg o drosglwyddo’r firws ac felly nid yw mwyach yn opsiwn.

Ond gallwch edrych ar yr ysgolion ar-lein, gan y bydd llawer o ysgolion eleni yn defnyddio eu gwefannau i arddangos eu hysgolion ac yn ychwanegu adnoddau i gynorthwyo disgyblion Blwyddyn 6 a’u rhieni i gael gweld i mewn i bob ysgol.

Gall yr adnoddau hyn fod mewn nifer o wahanol fformatau; teithiau rhithiol, areithiau pennaeth, fideos o’r ysgol ar waith ac ati.

Ewch i wefan pob ysgol (manylion isod) i ganfod beth sydd gan bob ysgol i’w gynnig.

Rhithiol drwy’r wefan: www.ysgoldavidhughes.org

Rhithiol drwy’r wefan (dyddiad i’w gadarnhau): www.ysgolgyfunllangefni.org

Dewch am daith rhithiol i gael blas sydyn ar fywyd yn Ysgol Syr Thomas Jones.

Rydym wedi dod a chasgliad o wybodaeth rydym yn meddwl fydd yn bwysig i chi wrth baratoi at flwyddyn nesaf. Edrychwn ymlaen at gydweithio efo chi ac at groesawu eich plant i gymuned croesawgar YSTJ.

Cysylltwch â ni yn y cyfamser os oes gennych unrhyw gwestiynau a chadwch yn iach a diogel.

Mr R A Bayley, Pennaeth

Wefan yr ysgol: www.ysgolsyrthomasjones.cymru

Daith rhithiol o’r ysgol: https://www.ysgolsyrthomasjones.cymru/noson-agored

Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld i gyd yn fuan, ond yn y cyfamser bydd noson agored rhithiol ar gael drwy’r wefan (dyddiad uwchlwytho heb ei gadarnhau)

Ond yn y cyfamser peidiwch oedi rhag cysylltu a mi yn bersonol petai gennych unrhyw gwestiwn

Mr P Mathews-Jones (Pennaeth)

Wefan yr ysgol: www.ysgoluwchraddbodedern.org

Yn Ysgol Uwchradd Caergybi rydym yn benderfynol i sicrhau bod disgyblion Blwyddyn 6 yn barod am eu blwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Uwchradd. Os yw hyn yn digwydd bod gyda ni, rydym yn siŵr y byddwch yn hyderus, yn gyffrous ac yn barod amdani!

Pwrpas y dudalen we isod yw eich helpu chi a’ch rhieni i wneud y penderfyniad mawr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwarae ein ‘Fideo Croeso’ (i’r chwith) ac yn sgrolio drwy’r cynnwys sydd ar gael.

Mr A Williams (Pennaeth)

Wefan yr ysgol: https://www.ysgoluwchraddcaergybi.com/