Mae gan rieni plant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yr hawl i dderbyn taliad o £19.50 ar gyfer pob plentyn cymwys, drwy drosglwyddiad cyfrif banc.
Does dim angen i rieni ail ymgeisio os ydynt wedi derbyn y taliadau hyn yn y gorffennol.
Bydd taliadau yn cael eu gwneud yn wythnosol ac yn disodli’r system pecynnau cinio dyddiol. Sylwch - ni ellir gwneud taliadau i mewn i gyfrif Swyddfa'r Post.
Er mwyn hawlio, cwblhewch y ffurflen ar-lein isod neu ffoniwch ein llinell gymorth ar 01248 752 392 sy’n agored rhwng 9-5 bob dydd.
Am fwy o wybodaeth, cyngor neu gymorth neu yn poeni am blentyn cysylltwch hefo Teulu Môn : 01248 725888.
Os nad ydych yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, gwiriwch a oes gennych hawl.
Ffurflen Gais Prydau Ysgol Am Ddim - Covid 19