Dan yr amgylchiadau presennol a fyddai modd anfon pob llythyr/ogfen yn ymwneud â cheisiadau Budd-dal Tai/Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar e-bost at budddaliadau@ynysmon.llyw.cymru
Os nad oes gennych fynediad i e-bost gallwch barhau i bostio’r llythyrau/dogfennau hyn i swyddfa’r Cyngor ond byddwch yn ymwybodol y gallai gymryd mwy o amser i brosesu’r post a dychwelyd unrhyw ddogfennau angenrheidiol atoch.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom byddwn yn cysylltu â chi, naill ai ar e-bost neu ar y ffôn.
Dysgwch sut i gael cymorth gyda Threth y Cyngor os ydych ar incwm isel.
Gallwch wneud cais p’un a ydych yn berchen ar eich tŷ eich hun, yn rhentu, yn ddi-waith neu’n gweithio.
Gwneud cais Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Ar-lein
Cais Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Ffyrdd eraill o wneud cais
- ffoniwch 01248 750057
- drwy apwyntiad i fynychu i gwblhau’r ffurflen yng Nghyswllt Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW neu i ymweld â chleientiaid bregus yn eu cartref i gwblhau’r ffurflen gais (Ffôn 01248 750057);
- drwy apwyntiad i lenwi’r ffurflen dros y ffôn yn Swyddfeydd Adain Refeniw a Budd-daliadau, Swyddogaeth Adnoddau, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW (Ffôn 01248 750057);
- drwy apwyntiad i gwblhau’r ffurflen efo “partneriaid” cymeradwy hefo hyfforddiant priodol.
Y rhai cyfredol yw
- Canolfan JE O’Toole, Sgwâr Trearddur, Caergybi, LL65 1NB (Ffôn 01407 760208);
- unrhyw swyddfa Cyngor ar Bopeth sydd ar yr Ynys (Ffôn 01248 722652);
- Swyddfa Cymorth Tai, Cyngor Sir Ynys Môn, Sgwâr Trearddur, Caergybi, LL65 1NB (Ffôn 01407 765912) a Gwasanaeth Cwsmer Tai, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni (Ffôn 01248 750057); ac
- Swyddfeydd Digartref Ynys Môn, Caergybi (Ffôn 01407 765557)
Os mai chi yw’r person sy’n hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor ac rydych yn meddwl bod penderfyniad a wnaed gennym am eich gostyngiad yn anghywir, dylech ysgrifennu atom:
- pa benderfyniad rydych yn anghytuno ag ef
- y rhesymau dros anghytuno ag ef
Gweler y fanylion cyswllt ar y dde.
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at
digidol@ynysmon.gov.uk er mwyn i ni allu eich helpu.