Cynllun gofal plant di-dreth
Cymorth gyda chostau gofal plant I deuluoedd sydd yn gweithio.
Darganfod mwy am y cynllun gofal plant di-dreth - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Gofal plant ar gyfer plant 2 i 3 oed gyda Dechrau'n Deg
Gall Dechrau’n Deg ddarparu gofal plant o ansawdd uchel wedi’i ariannu yn ystod tymor yr ysgol am 2½ awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn.
Darganfod mwy am Dechrau'n Deg
Cynnig Gofal Plant Cymru
Gall rhieni sy’n gweithio neu mewn addysg/hyfforddiant ac hefo plant 3 a 4 oed fod yn gymwys gael hyd at 30 awr o addysg a gofal plant.
Darganfod mwy am y Cynnig Gofal Plant i Gymru
Credyd Treth Plant
Cymorth i deuluoedd sy’n gweithio ac ar incwm isel.
Darganfod mwy am Gredyd Treth Plant - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Credyd Treth Gwaith
Cymorth i deuluoedd sy’n gweithio ar incwm isel.
Darganfod mwy am Gredyd Treth Gwaith - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Credyd Cynhwysol
Mae’n bosibl y gallwch hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Darganfod mwy am Gredyd Cynhwysol - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Cyllid Myfyrwyr Cymru
Mae’n bosib y gall myfyrwyr mewn addysg uwch sy’n gymwys hawlio cymhorthdal gofal plant yn ddibynnol ar y cwrs maen’t yn ei wneud.
Mae hefyd yn bosib y gall myfyrwyr mewn addysg bellach yng Nghymru hawlio cymorth gyda chostau gofal plant gan y Gronfa Wrth Gefn Ariannol.
Gofynnwch am wybodaeth yn swyddfa cymorth i fyfyrwyr eich coleg.
Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Credyd Yswiriant Cenedlaethol
Os ydych yn:
- daid neu’n nain neu aelod arall o’r teulu
- gofalu am blentyn o dan 12 oed, fel arfer tra bo’r rhiant neu’r prif ofalwr yn gweithio
Gwnewch gais am Gredydau Gofal Plant ar gyfer Oedolion Penodedig - bydd y ddolen yn agor tab newydd