Bydd y cynllun yn cynnwys 2 elfen; prif gynllun (yn ymwneud â rhai talwyr Treth y Cyngor) a chynllun dewisol (dim manylion pendant am hyn eto).
Prif gynllun
Bydd y prif gynllun yn cynnwys taliad ‘costau byw’ o £150 i dalwyr treth y cyngor sy’n byw mewn eiddo bandiau A i D, a holl dalwyr treth y cyngor sy’n cael Gostyngiad Treth y Cyngor (sef 'budd-dal Treth y Cyngor' gynt), beth bynnag yw band eu heiddo (A i I).
Nid yw'r £150 yn ad-daliad ar fil Treth y Cyngor, mae'n daliad i helpu gyda chostau cynyddol yr holl filiau cyfleustodau.
Bydd un taliad i bob cartref cymwys.
Taliadau
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi comisiynu Allpay i brosesu’r holl daliadau i dalwyr y Dreth Gyngor cymwys ar gyfer y prif gynllun.
Bydd yr holl dderbynwyr cymwys yn derbyn llythyr drwy’r post gyda thaleb côd bar i’w gyflwyno yn eu Swyddfa Bost lleol, ynghyd â phrawf adnabod, fel y nodir yn y llythyr.
Dim ond unwaith y gellir cyfnewid talebau am arian a byddent yn dod i ben fis ar ôl eu cyhoeddi.
Ymddiheurwn am yr oedi yn rhyddhau'r taliadau. O ganlyniad i amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, bydd taliadau’n cael eu rhyddhau dros 12 wythnos, gyda’r swp cyntaf yn cael ei ryddhau ar ddechrau mis Mehefin.
Cysylltu â'r cyngor
Os nad ydych wedi derbyn taliad erbyn 21 Awst 2022, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda.
Nid oes posib newid trefn y taliadau, felly gofynnwn yn garedig i chi beidio cysylltu â’r Cyngor ynglyn â hyn.
Cynllun dewisol
Nid oes gennym unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd. Mwy o wybodaeth i ddilyn.
Cwestiynau cyffredin
Bydd pob aelwyd cymwys yn derbyn taleb y gellir ei chyfnewid yn y Swyddfa Bost cyn pen 30 diwrnod o ddyddiad y daleb.
Bydd rhaid i unigolion cymwys fynd â dogfennau adnabod gyda hwy i’r Swyddfa Bost. Bydd rhestr o’r dogfennau adnabod derbyniol yn y llythyr a fydd yn cael ei anfon gyda’r daleb.
Gan mai dim ond nifer gyfyngedig o Swyddfeydd Post sydd ar Ynys Môn, dim ond 2,000 o dalebau fydd yn cael eu dosbarthu bob wythnos.
Bydd y talebau cyntaf yn cael eu hanfon i aelwydydd, gan ddechrau gydag eiddo band A hyd nes y byddwn yn cyrraedd eiddo band D.
Fe all rywun fynd i’r Swyddfa Bost ar eu rhan (aelod o’r teulu, cymydog, gofalwr).
Os na all rywun fynd i’r Swyddfa Bost ar eu rhan, dylent gysylltu â Thîm Budd-daliadau Tai’r Cyngor a byddwn yn gwneud y taliad yn syth i’w cyfrif banc unwaith y mae dyddiad y daleb wedi dod i ben. Bydd rhaid iddynt gwblhau ffurflen gofrestru.
Cysylltwch â: budddaliadau@ynysmon.llyw.cymru
Na.
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y taliad rhaid i’r eiddo fod yn brif gartref i’r deiliad.
Na.
Bydd y taliadau y bydd y Cyngor yn eu gwneud i’r cwmni allanol yn dod o’r grant gweinyddu a fydd yn cael ei dalu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru.
Byddwch yn ofalus!
Rydyn ni'n annog trigolion i fod yn ystyriol o e-byst, negeseuon testun neu alwadau ffôn o ffynonellau amheus sy'n cynnig gwybodaeth am y cynllun, oherwydd gallai hyn fod gan rywun sy'n ceisio dwyn eich gwybodaeth bersonol chi, megis manylion eich cyfrif banc chi.