Dylech gyrraedd ar amser eich apwyntiad penodol a disgwyl i gael eich galw i mewn i’r dderbynfa.
Er mwyn eich diogelwch, bydd gennym fesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid yn eu lle. Fodd bynnag, os allwch chi, bydd gofyn i chi wisgo gorchudd wyneb eich hun yn ystod eich ymweliad.
Byddwch yn cael locer ar gyfer cadw eich côt a’ch bag a rhaid i chi olchi eich dwylo cyn cyffwrdd y deunyddiau. Bydd gennym ddiheintydd dwylo ar gael ond gall achosi difrod i’r dogfennau felly rydym yn argymell golchi dwylo â dŵr a sebon cyn cyffwrdd y dogfennau.
Bydd hefyd angen i chi ddod a phensiliau a phapur eich hun er mwyn gwneud nodiadau gan na ellir darparu’r rhain. Ni chaniateir beiros.
Unwaith y byddwch yn yr ystafell chwilota byddwch yn cael sedd benodol – defnyddiwch y sedd sydd wedi’i chlustnodi ar eich cyfer yn unig.
Lle bo hynny’n bosibl, rydym yn mynnu bod popeth yn cael ei archebu ymlaen llaw. Mae hyn yn cynnwys dogfennau, mapiau a llyfrau o’n hadran gyfeiriadau. Noder na fydd yr holl eitemau ar gael.
Ni chaniateir chwilio deunyddiau astudio lleol na microffilm yn yr ystafell ymchwil.
Bydd aelod o staff yn bresennol bob amser yn yr ystafell chwilota er mwyn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych Fodd bynnag, o ganlyniad i lefelau staffio cyfyngedig a mesurau cadw pellter cymdeithasol, ni fydd modd i ni ddarparu cymorth un i un.