Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi lansio platfform ‘Fy Nghyfrif Ynys Môn’ a fydd yn dod yn lle’r platfform ‘Fy Nghyfrif’ presennol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill nad ydynt wedi cael eu delio a nhw, defnyddiwch y ffurflen adborth ar y dudalen hon. Efallai y byddwn yn defnyddio eich adborth i sicrhau cadarnhad.
Mae’r holl adborth yn ddienw. Ni ofynnir i chi am unrhyw fanylion personol.
Ewch i'n ffurflen adborth
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn parhau i edrych ar ffyrdd o wella eich profiad fel cwsmer.
Mae’r llwyfan newydd, ‘Fy Nghyfrif Môn’, yn llwyfan hawdd ei ddefnyddio sy’n caniatáu i breswylwyr gyflwyno a rheoli ceisiadau.
Rydym yn ceisio sicrhau bob amser bod ein systemau digidol yn cydymffurfio â’r cyfreithiau hygyrchedd diweddaraf a chanllawiau arfer orau.
Gallwch roi adborth i ni ar ôl cyflwyno ffurflen yn Fy Nghyfrif Môn. Os cewch unrhyw broblemau wrth ddefnyddio ein ffurflenni yna rhowch wybod i ni.
Rydym yn credu y bydd y cyfrif newydd, Fy Nghyfrif Môn, yn cynnig profiad llawer gwell i ddefnyddwyr.
Bydd.
Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau fod y cyfrif newydd, Fy Nghyfrif Môn, yn caniatáu i chi wneud popeth yr oeddech yn gallu ei wneud ar yr hen gyfrif.
Rydym yn credu y bydd Fy Nghyfrif Môn yn rhoi profiad llawer gwell i gwsmeriaid.
Bydd nifer o ffurflenni ar gael i chi eu defnyddio fel ‘Gwestai’, heb orfod cofrestru.
Os oes gennych chi gyfrif gyda'n platfform presennol, Fy Nghyfrif, ni fyddwn yn trosglwyddo'ch cyfrif i'r platfform newydd 'Fy Nghyfrif Môn'. Mae'n system wahanol.
Pam creu cyfrif?
Byddem yn eich annog i gofrestru ar gyfer cyfrif. Gyda chyfrif gallwch:
- arbed amser wrth lenwi ffurflenni, gan y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cwblhau’n awtomatig o fanylion eich cyfrif
- dilyn hynt unrhyw geisiadau yr ydych wedi eu hanfon atom drwy’r llwyfan
- darparu gwybodaeth bellach sydd ei hangen arnom yn uniongyrchol trwy Fy Nghyfrif Môn
- gweld eich dyddiad casglu biniau nesaf ar dudalen gartref eich cyfrif
Byddwn yn anfon e-bost at bob defnyddiwr cofrestredig fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i ail-gofrestru.
Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost fel enw defnyddiwr.
Gallwch ddefnyddio eich cyfrinair presennol i gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif Môn, os yw eich cyfrinair presennol yn bodloni’r gofynion ar gyfer cyfrineiriau.
Esbonnir y gofynion ar gyfer cyfrineiriau pan fyddwch yn cofrestru.
Na.
Ni fydd y cyngor yn trosglwyddo eich manylion personol o’ch cyfrif ‘Fy Nghyfrif’ presennol i’r cyfrif newydd, ‘Fy Nghyfrif Môn’.
Byddwn yn anfon e-bost at gwsmeriaid sydd â chyfrif yn barod yn eu gwahodd i gofrestru ar y llwyfan newydd.
Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam ynghylch sut i gofrestru.
Sut i arbed (safio/gadw) eich ceisiadau gwasanaeth
Efallai yr hoffech arbed eich ceisiadau gwasanaeth presennol.
Nid oes rhaid i chi wneud hyn, ond ni fyddwch yn gallu cyrchu’r cofnodion hynny ar ôl 31 Mai 2023.
Bydd modd cael mynediad at eich data presennol tan 31 Mai 2023. Bydd hyn yn rhoi amser i ni brosesu unrhyw geisiadau sy’n weddill ar yr hen system.
Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd gennych fynediad i’ch ceisiadau am wasanaeth a’ch data personol ar yr hen lwyfan ‘Fy Nghyfrif’.
Ar 31 Gorffennaf 2023, bydd y data a gedwir ar y llwyfan hwn yn cael ei ddileu.

Nid oes angen i chi ofyn i ni ddileu eich data / gwybodaeth bersonol oddi ar y llwyfan ‘Fy Nghyfrif’ presennol.
Bydd hyn yn digwydd yn awtomatig ar 31 Gorffennaf 2023.
Sut i arbed (safio/gadw) eich ceisiadau gwasanaeth
Efallai yr hoffech arbed eich ceisiadau gwasanaeth presennol.
Nid oes rhaid i chi wneud hyn, ond ni fyddwch yn gallu cyrchu’r cofnodion hynny ar ôl 31 Mai 2023.
Byddwn yn delio gydag unrhyw geisiadau agored yr ydych wedi eu darparu trwy’r llwyfan presennol, ac yn gweithredu arnynt yn ôl yr angen.
Sut i arbed (safio/gadw) eich ceisiadau gwasanaeth
Efallai yr hoffech arbed eich ceisiadau gwasanaeth presennol.
Nid oes rhaid i chi wneud hyn, ond ni fyddwch yn gallu cyrchu’r cofnodion hynny ar ôl 31 Mai 2023.
Cedwir eich data ym mhrif ganolfan ddata’r platfform, sy’n cael ei chartrefu gan ddarparwr cartrefu gwe blaenllaw yn y diwydiant y mae’r awdurdod wedi sicrhau sydd yn bodloni ein safonau technegol llym.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i ddiogelwch gwybodaeth ac yn deall bod cyfrinachedd, cywirdeb, ac argaeledd data yn hanfodol, yn enwedig wrth i lefel effaith y wybodaeth gynyddu.
Mae staff Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael eu hyfforddi ar bwysigrwydd diogelwch data a sut i atal camddefnyddio data. Bydd eich data a gwybodaeth bersonol yn ddiogel ar lwyfan newydd Fy Nghyfrif Môn.
Bydd dolenni i ffurflenni ar-lein Cyngor Sir Ynys Môn, ar wefan y cyngor, yn eich cyfeirio at y ffurflenni newydd cyn gynted ag y bydd y system newydd, Fy Nghyfrif Môn, yn fyw.
Os ydych eisiau mynd at ffurflen trwy eich tudalen Fy Nghyfrif Môn, unwaith eto byddwch yn cael eich cyfeirio at y ffurflenni ar y llwyfan newydd.
Na.
Bydd y llwyfan Fy Nghyfrif Môn yn cynnwys ffurflenni fydd yn caniatáu i chi hysbysu gwasanaethau os yw eich cyfeiriad yn newid (megis Treth Gyngor).
Ni fydd y manylion cyswllt a ddefnyddir wrth gofrestru ar gyfer ‘Fy Nghyfrif Môn’ yn diweddaru systemau eraill y cyngor.