Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru: ymgynghoriad


Mae ymgynghoriad cyhoeddus 12-wythnos wedi ei lansio, sy’n rhoi cyfle i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr siapio dyfodol teithio yn y rhanbarth.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal gan Uchelgais Gogledd Cymru, nid Cyngor Sir Ynys Môn.

Dweud eich dweud

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gwahodd adborth ar gynllun drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru hefyd yn gwasanaethu fel Cyd-Bwyllgor Corfforedig y rhanbarth, gyda chyfrifoldeb dros:

  • gynllunio trafnidiaeth
  • cynllunio defnydd tir strategol
  • gwella lles economaidd

Nid yw Cyngor Sir Ynys Môn yn gyfrifol am:

  • hygyrchedd yr arolwg ar-lein
  • ymarferoldeb y dewisiadau iaith o fewn yr arolwg
Ewch i'r arolwg ar-lein

Dyddiad cau

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 14 Ebrill 2025.

Copïau papur

Bydd copïau caled o'r dogfennau ar gael mewn llyfrgelloedd ar yr ynys.

Sesiynau galw mewn

Mae dwy sesiwn galw mewn wedi'u cynllunio yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn:

  • Llyfrgell Caergybi ar 11 Chwefror o 3pm tan 6pm
  • Llyfrgell Llangefni 13 Chwefror o 3pm tan 6pm

Mae cael barn lleol ar yr ymgynghoriad yn bwysig, felly gofynnwn yn garedig i chi annog cymaint o ymateb a phosibl.