Cyngor Sir Ynys Môn

Rhybudd o fwriad i gyhoeddi datganiad polisi trwyddedu


Rhybudd o fwriad i gyhoeddi datganiad polisi trwyddedu yn unol â gofynion Deddf Gamblo 2005.

Bydd Datganiad Polisi Trwyddedu Cyngor Sir Ynys Môn 2025 i 2028, fel a fabwysiadwyd gan y Cyngor Llawn ar 3 Rhagfyr, 2024 yn cael ei gyhoeddi ar 3 Ionawr, 2025.

Bydd y Datganiad Polisi Trwyddedu yn dod i rym ar 31 Ionawr, 2025.

Gellir dod o hyd i'r Polisi Gamblo 2025 i 2028 ar ein gwefan.

Gellir gweld y polisi yn swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, LL77 7TW.