Cyngor Sir Ynys Môn

Hysbysiad o ardystio cwblhau'r archwiliad o'r gyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2024


Rhoddir rhybudd drwy hyn, yn unol â Rheoliad 13 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygiadau) 2018. Fod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio bod yr archwiliad o gyfrifon Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024 wedi'i gwblhau.

Caiff etholwr ar gyfer yr ardal, arolygu a gwneud copi o’r Datganiad Cyfrifon terfynol wedi’i archwilio ar gyfer 2023/24.

Datganiad o'r cyfrifon 2023 i 2024 Datganiad o'r cyfrifon 2023 i 2024 - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Os hoffech archwilio’r cyfrifon, yn y cyfeiriad a welir isod rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc ffoniwch 01248 752602 neu anfonwch neges e-bost at cyllid151@ynysmon.llyw.cymru .

Adain Cyfrifeg,
Swyddogaeth Adnoddau,
Cyngor Sir Ynys Môn,
Swyddfeydd y Cyngor,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7TW.

Dyddiedig: 10 Rhagfyr 2024