Hysbysir drwy hyn, yn unol ag Adrannau 30 a 31 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004:
Y gall unrhyw etholwr lleol, rhwng dydd Llun, 1 Awst 2022 a dydd Gwener, 26 Awst 2022 (yn gynwysedig), yn ystod yr amseroedd isod: ofyn am gael archwilio a gwneud copïau o gyfrifon y corff a enwir uchod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbyniadau yn ymwneud â nhw, yn amodol ar ofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Bydd y ddogfen Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer 2021/22 ar gael i’w harchwilio yn Swyddogaeth Adnoddau’r Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 4.30pm.
Mae’r ddogfen ar gael ar wefan y cyngor hefyd.
Er mwyn caniatáu i ni wneud trefniadau priodol ar gyfer archwilio’r dogfennau, neu anfon gwybodaeth drwy’r post neu ar e-bost, gofynnwn i etholwyr wneud apwyntiad drwy anfon e-bost at Cyllid151@ynysmon.llyw.cymru neu dros y ffôn ar (01248) 752602, neu drwy ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, Adran Adnoddau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW.
Gwahoddir unigolion hefyd i gysylltu â Claire Klimaszewski, Rheolwr Cyllid ar 01248 752133, neu e-bost, ClaireKlimaszewski@ynysmon.llyw.cymru, i gael gwybodaeth bellach am eitemau a gynhwysir yn y Datganiad o Gyfrifon (drwy gyfrwng y Saesneg), a Bethan Hughes-Owen, Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifeg ar 01248 752663, neu e-bost, BethanHughesOwen@ynysmon.llyw.cymru, a all ymateb drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar, neu ar ôl dydd Llun, 5 Medi 2022, bydd yr Archwilydd penodedig (Adrian Crompton, Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ), ar gais unrhyw etholwr llywodraeth leol yn yr ardal y mae’r cyfrifon yn ymwneud â hi, yn rhoi cyfle i’r etholwr neu ei gynrychiolydd ef/hi ei holi am y cyfrifon, a gall unrhyw etholwr o’r fath neu ei gynrychiolydd, ddod gerbron yr Archwilydd i wrthwynebu’r cyfrifon mewn perthynas ag unrhyw fater ble gall yr archwilydd gymryd camau o dan:
- Adran 32 o’r Ddeddf – sef gofyn i’r llys am ddatganiad bod eitem yn y cyfrifon yn groes i’r gyfraith a/neu
- Adran 22 o’r Ddeddf – gwneud adroddiad er budd y cyhoedd
Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw wrthwynebiad yn y lle cynaf i’r Archwilydd penodedig gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. Rhaid cyflwyno copi o’r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i’r Swyddog Adran 151, Adran Adnoddau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW.
R Marc Jones FCPFA
Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) – Swyddog Adran 151
Swyddogaeth (Adnoddau)
Cyllid
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
15 Gorffennaf 2022