Cyngor Sir Ynys Môn

Fforwm Iaith Ynys Môn


Beth ydi Fforwm Iaith Ynys Môn

Mae Fforwm Iaith Ynys Môn yn grŵp o sefydliadau sy’n cydweithio i hybu a diogelu’r Gymraeg ar Ynys Môn. Cafodd ei sefydlu yn 2014 gan Gyngor Sir Ynys Môn mewn partneriaeth â Menter Môn.

Beth mae’r fforwm yn ei wneud

Mae’n dod â chyrff addysg, iechyd, diwylliant, gwasanaethau brys, a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i rannu syniadau, cynllunio prosiectau, a chydweithio ar fentrau sy’n cryfhau defnydd o’r Gymraeg yn lleol.

Un o fentrau’r fforwm yw’r ap OgiOgi a ddatblygwyd i gefnogi rhieni prysur. Mae’n cynnwys gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau lleol, a chyngor ar sut i gyflwyno’r Gymraeg i blant ifanc.

Aelodau

Mae aelodau’n cynnwys:

  • Prifysgol Bangor
  • Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Mudiad Meithrin
  • Yr Urdd
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Grŵp Cynefin ... a llawer mwy

Pam mae’n bwysig

Mae’r fforwm yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chefnogi’n weithredol ar draws sawl maes – o addysg i wasanaethau cyhoeddus – gan greu amgylchedd lle mae’r iaith yn gallu ffynnu. Mae ei flaenoriaethau’n cynnwys:

  • Teuluoedd a throsglwyddo iaith
  • Addysg
  • Pobl ifanc a chymunedau
  • Llefydd gwaith

Sut allwch chi gymryd rhan neu gysylltu

Gallwch gysylltu â’r fforwm drwy e-bostio cymraeg@ynysmon.llyw.cymru  neu ymweld â’i gyfrif Facebook.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.